Dywedwch wrthym ni a ydych chi’n derbyn cwcis.

Rydym ni’n defnyddio cwcis i gasglu gwybodaeth ynglŷn â sut ydych chi’n defnyddio sirddinbych.gov.uk. Rydym ni’n defnyddio’r wybodaeth hon i wneud yn siŵr bod y wefan yn gweithio’n iawn ac i gwella ein gwasanaethau.

Rydych chi wedi derbyn pob cwci. Gallwch newid eich gosodiadau cwcis ar unrhyw adeg.

[News article title (Cymraeg)]

4 llun o bobl ifanc o Grist y Gair yn cymryd rhan mewn gweithgareddau gwirfoddoli

Mae pedwar disgybl o flwyddyn 8 yng Nghrist y Gair y Rhyl wedi bod yn cymryd rhan mewn gweithgareddau addysg amgen trwy wirfoddoli gyda Byddin yr Iachawdwriaeth.

Roedd y disgyblion yn cael eu cefnogi hefo eu presenoldeb a chyflawniad yn yr ysgol gan Wasanaeth Llwybrau’r Cyngor, sy’n cefnogi pobl ifanc yn Sir Ddinbych er mwyn lleihau’r risg o ddatgysylltu o addysg, darparu cymorth i ail-ymgysylltu mewn addysg neu i symud i gyflogaeth neu hyfforddiant ar ddiwedd blwyddyn 11. Y nod gyffredinol yw mynd i’r afael ag un o’r prif ffactorau sy’n achosi tlodi hirdymor.

Cafodd y disgyblion eu hannog i wirfoddoli gyda Byddin yr Iachawdwriaeth gan Swyddog Ymgysylltu Addysg Llwybrau, er mwyn eu helpu i ddatblygu eu sgiliau rhifedd, cyfathrebu a chymdeithasol trwy weithgareddau ystyrlon.

Roedd rhai o’r gweithgareddau gwirfoddoli yr oeddent yn ei gyflawni yn cynnwys trefnu dillad ac adnoddau eraill oedd wedi cael eu cyfrannu i’r ganolfan, labelu a rhoi prisiau ar gynnyrch i’w gwerthu mewn siopau elusen, trefnu silffoedd bwyd er mwyn rhoi popeth mewn trefn yn barod i bobl sy’n casglu parseli bwyd, yn ogystal â dyletswyddau glanhau.

Mae’r disgyblion wedi datblygu etheg gwaith cryf o ganlyniad i’r profiad, ac wedi mwynhau cymaint eu bod wedi ymrwymo i wirfoddoli gyda Byddin yr Iachawdwriaeth yn eu hamser eu hunain yn ystod gwyliau’r Pasg.

Dywedodd yr Uwchgapten Chris Davidson, Swyddog Byddin yr Iachawdwriaeth y Rhyl: “Rydym yn hapus i letya’r disgyblion yn rhai o’n gweithgareddau yng Nghanolfan Byddin yr Iachawdwriaeth. Ar ôl cyflwyniad byr am yr hyn sy’n bwysig i Fyddin yr Iachawdwriaeth a’r hyn rydym yn ei wneud, fe wnaeth y bechgyn helpu i drefnu’r ystafell o dan oruchwyliaeth ein gwirfoddolwyr. Fe wnaethant wir fwynhau helpu ac roedd eu rhyngweithiad gyda’n gwirfoddolwyr yn anhygoel; roeddent yn dod ymlaen yn dda iawn, roeddent yn gwneud yr hyn a ofynnwyd iddynt wneud ac roeddent o gymorth mawr.

“Fe wnes i hefyd fynd â nhw i’r siopau i ail-lenwi’r banc bwyd, gan egluro pam ein bod ni angen nhw i helpu pobl a sut oeddent yn cael eu hatgyfeirio i ni gan sefydliadau eraill. Ar ôl i’r bechgyn roi bwyd ar i silffoedd, fe wnaethant baratoi bagiau bwyd yn barod i’w rhoi allan yn ôl yr angen. Unwaith eto, fe wnaethant gymryd at y swydd yn dda.

“Ar eu sesiwn gwirfoddoli olaf, daeth un o’r bechgyn â bwyd o adref i roi yn y banc bwyd ac fe wnaeth y grŵp hefyd roi blodau i un o’r gwirfoddolwyr am fod mor garedig iddynt. Fe wnaethant hefyd ofyn a allent ddod i mewn ar eu gwyliau ysgol!

“Mae Georgina [Swyddog Ymgysylltu Addysg Llwybrau] wedi bod o gymorth mawr iddynt, gan eu galluogi i ddysgu a mynegi eu hunain yn ystod yr ymweliadau. Rydym wedi cael amser gwych gyda nhw, ac rwy’n credu eu bod wedi elwa cymaint o’u hamser yma.”

Meddai Geraint Davies, Pennaeth Gwasanaethau Addysg Cyngor Sir Ddinbych: “Roeddwn yn falch o glywed am y gwaith gwych a wnaed gan y grŵp o ddisgyblion o Grist y Gair, sydd yn cael eu cefnogi i ymgysylltu gyda’u haddysg. Mae’n destament i’r ffordd y gall wybodaeth a sgiliau gael eu datblygu trwy amryw o ddulliau, ac yn amlwg mae’r bechgyn hyn wedi ffynnu trwy gymryd rhan mewn addysg amgen.

“Hoffwn ddiolch i Llwybrau am gefnogi’r disgyblion hyn i ddod o hyd i gyfle gwirfoddoli priodol er mwyn eu helpu i ddatblygu sgiliau gwerthfawr ar gyfer y dyfodol. Hoffwn hefyd ddiolch i Fyddin yr Iachawdwriaeth a’i wirfoddolwyr am eu lletya a chefnogi eu datblygiad; rwy’n gobeithio y bydd eu gwaith caled yn parhau trwy wirfoddoli ymhellach gyda chi dros wyliau’r ysgol.”

Mae Llwybrau wedi cael £1,308,418 gan Lywodraeth y DU drwy Gronfa Ffyniant Gyffredin y DU.


Cyhoeddwyd ar: 04 Ebrill 2024