Mae busnes yn Sir Ddinbych wedi derbyn cymorth gan raglen Dechrau Gweithio Sir Ddinbych yn Gweithio, ac mae nifer o’r rhai a fu’n cymryd rhan yn y cynllun wedi bod yn gweithio mewn busnes gofal dydd i gŵn.
Mae Four Paws Inn yn fusnes teuluol yn Rhuthun sy’n rhoi gofal dydd i gŵn, ac mae wedi bod yn gweithredu ers 2019.
Mae Cynllun Dechrau Gweithio Sir Ddinbych yn Gweithio yn dod â phreswylwyr a busnesau cymwys yn Sir Ddinbych ynghyd i ddarparu cyfleoedd cyflogaeth er mwyn gwneud y mwyaf o’u potensial.
Mae’r cynllun yn cynnig lleoliadau o ansawdd uchel, gyda thâl a heb dâl, er mwyn rhoi cyfle i breswylwyr cymwys uwchsgilio drwy hyfforddiant a phrofiad sy’n benodol ar gyfer sector. Caiff busnesau cymwys sy’n cofrestru ar Gynllun Dechrau Gweithio gefnogaeth i ddarparu cyfleoedd wedi’u teilwra i unigolion trwy leoliadau gwaith wedi’u hariannu’n llawn. Fel rhan o’r lleoliad, bydd yr unigolyn yn cael cefnogaeth gan dîm Sir Ddinbych yn Gweithio i oresgyn rhwystrau i waith, fel lles, diffyg profiad, gofal plant a phroblemau cludiant. Bydd y tîm hefyd yn cynorthwyo unigolion i ganfod cyflogaeth ar ddiwedd y lleoliad.
Meddai Huw a Kim Edwards, perchnogion Four Paws Inn:
“Ers cofrestru gyda’r Cynllun Dechrau Gweithio, rydym wedi cael llawer o aelodau ardderchog o staff o bob cefndir. Mae wedi bod werth chweil i ni gael gweld unigolion yn magu hyder a sgiliau yn ein hamgylchedd gwaith unigryw.
Mae’r cyfranogwyr presennol sydd gennym yma yn gwneud yn dda, ac maent i’w gweld yn cael blas ar eu rôl – rydym yn hapus iawn am hynny. Rydym wedi helpu cyfranogwr arall ar y Cynllun Dechrau Gweithio i sefydlu ei wasanaeth ei hun, sef mynd â chŵn am dro. Mae’n wych eu gweld nhw’n datblygu ac rydym yn dal i fod yn cadw llygad a cheisio eu cefnogi lle gallwn.”
Dywedodd Shan, un a fu’n cymryd rhan yn y cynllun, sydd bellach â swydd lawn amser gyda’r busnes gofalu am gŵn:
“Dois i wybod am Sir Ddinbych yn Gweithio mewn digwyddiad yn y Ganolfan Waith leol, lle’r oeddwn yn gallu trafod fy sefyllfa a’m hanghenion yn hawdd gyda mentor Sir Ddinbych yn Gweithio a wnaeth i mi deimlo’n hyderus fy mod yn mynd i gael y gefnogaeth gywir – ac mi gefais yn gyflym iawn!
Roeddwn wedi bod drwy gyfnod hir heb waith oherwydd fy iechyd, ac roeddwn yn chwilio am waith mewn sector newydd, felly roeddwn yn hyderus bod y Cynllun Dechrau Gweithio’n gyfle perffaith i mi ennill profiad gwerthfawr mewn sector yr oeddwn eisiau gweithio ynddo o ddifri!
Roedd mentoriaid Sir Ddinbych yn Gweithio a’r staff yn Four Paws Inn o gymorth mawr, ac fe wnaethant fy helpu i fagu hyder ac ennill sgiliau.
Byddem yn argymell Cynllun Dechrau Gweithio yn gryf i unrhyw un sydd yn yr un sefyllfa â mi, neu mewn sefyllfa debyg.”
Dywedodd y Cynghorydd Jason McLellan, Arweinydd y Cyngor ac Aelod Arweiniol Twf Economaidd a Threchu Amddifadedd:
“Mae’r bartneriaeth hon rhwng busnes lleol a Sir Ddinbych yn Gweithio yn dangos gwerth pwysig y Cynllun Dechrau Gweithio.
Mae’r busnes a’r cyfranogwr yn cael budd, nid yn unig o’r profiad gwaith, ond o’r cymorth a chyngor arbenigol a roddir gan Sir Ddinbych yn Gweithio.”
Crëwyd y Cynllun Dechrau Gweithio i roi cyfleoedd i breswylwyr Sir Ddinbych weithio gyda busnesau lleol er mwyn uwchsgilio ac ennill profiad amhrisiadwy gyda’r nod o ganfod cyflogaeth gynaliadwy.
Mae Sir Ddinbych yn Gweithio yn cael ei hariannu’n rhannol drwy Raglen Cymunedau am Waith a Mwy Llywodraeth Cymru sy’n cefnogi’r bobl dan yr anfantais fwyaf yn y farchnad lafur i oresgyn y rhwystrau sy’n eu hatal nhw rhag cael gwaith.
Mae Sir Ddinbych yn Gweithio hefyd wedi derbyn £3,529,632 gan Lywodraeth y DU drwy Gronfa Ffyniant Gyffredin y DU.