Mae Cyngor Sir Ddinbych wedi croesawu penderfyniad Gweinidog Addysg Llywodraeth Cymru ynghylch trefniadau TGAU a Safon Uwch ar gyfer 2021.
Cyhoeddodd Kirsty Williams MS heddiw (dydd Mawrth) na fyddai myfyrwyr TGAU a Safon Uwch yn sefyll arholiadau ym mis Mai/ Mehefin 2021, ond y byddant yn derbyn graddau yn seiliedig ar asesiadau a gynhelir mewn ysgolion.
Dywedodd y Cynghorydd Huw Hilditch-Roberts, Aelod Arweiniol y Cabinet dros Blant, Addysg ac Ymgysylltu â'r Cyhoedd: "Mae'n newyddion gwych bod penderfyniad wedi'i wneud o'r diwedd sy'n golygu nad yw ein pobl ifanc yn cael eu gadael heb atebion ac yn wynebu llawer o ansicrwydd. Gobeithio bod cyhoeddiad y Gweinidog yn rhoi rhywfaint o dawelwch meddwl i fyfyrwyr, ysgolion a theuluoedd am y trefniadau ar gyfer y flwyddyn nesaf. Mae wedi bod yn gyfnod mor ansicr iddynt i gyd ond mae'n golygu y gall ysgolion fwrw ymlaen yn awr â'r dasg o barhau i ddarparu'r lefel gywir o gymorth y mae ar fyfyrwyr ei hangen.
"Mae coronafeirws wedi cael cymaint o effaith ar amserlen yr ysgol eleni fel mai dilyn llwybr heb arholiadau oedd y canlyniad mwyaf teg i'n pobl ifanc.
"Byddwn yn gweithio gydag ysgolion, yn ogystal ag ar lefel ranbarthol a chenedlaethol i sicrhau bod y broses yn cael ei dilyn ac yn rhoi tegwch i bawb".
Nodyn i Olygyddion: I gael rhagor o wybodaeth, cysylltwch â'r Tîm Cyfathrebu, ar 01824 706222.