Mae Cyngor Sir Ddinbych wedi cael gwybod am newidiadau i wasanaethau bws yn Ninbych a fydd yn cael eu gweithredu oherwydd bod ffyrdd ar gau rhwng dydd Llun, 16 Ionawr - dydd Gwener, 20 Ionawr a rhwng dydd Llun, 23 Ionawr - dydd Gwener 27 Ionawr 2023.
Oherwydd bod Lôn Sowter, Dinbych ar gau rhwng y dyddiau hyn, bydd gwasanaethau bws yn cael eu diwygio a dargyfeirio o'u llwybr arferol. Sylwch na fydd unrhyw draffig yn gallu mynd i Stryd y Bont yn ystod y cyfnod hwn a dylid ystyried llwybrau eraill oherwydd y gwaith cynnal a chadw trydanol hanfodol.
Bydd bysiau cyn 7.30yb ond yn gwasanaethu arhosfan bys Plas Pigot ar ffordd Rhuthun i gyfeiriad Rhuthun, ac arhosfan bys Tafarn Y Railway i gyfeiriad y Rhyl.
Bydd gwasanaeth gwennol tacsi rhad ac am ddim yn gweithredu rhwng 7.30yb a 6.00yp i drosglwyddo teithwyr o Pwll y Grawys a Stryd y Dyffryn i Ffordd Rhuthun i gwrdd â bysiau – ac i’r gwrthwyneb. Bydd tacsis yn aros ym Mhwll y Grawys ar yr adeg y disgwylir y bws ac yn cario’r rhai sydd angen y gwasanaeth i Ffordd Rhuthun, ac yn codi'r rhai sy'n gadael y bws sy'n cyrraedd yn ôl i fyny i Bwll y Grawys.
Bydd y gwasanaethau canlynol yn gwasanaethu Pwll y Grawys a Ffordd Rhuthun yn ynyg.
20:50 Y Rhyl-Dinbych
21:40 Pwll Lenton i Langwyfan a dychwelyd 76
22:20 Dinbych- Y Rhyl
23:00 Rhyl-Dinbych
23:55 Dinbych-Y Rhyl
Bydd pob gwasanaeth min nos arall yn stopio yn Ffordd Rhuthun yn ynyg.
Bydd Arosfannau Bws Dros Dro yn eu lle ar Heol yr Orsaf y tu allan i Aldi a Theatr Twm O’r Nant
Bydd gwasanaeth 76 yn stopio ym Pwll y Grawys, Heol yr Orsaf a Ffordd Rhuthun YN UNIG. Ni fydd yn stopio ar Vale St.
66 Fflecsi Ni fydd yn stopio ar Stryd y Dyffryn. Bydd yn gwasanaethu Pwll y Grawys a'r arhosfan dros dro ar Heol yr Orsaf.
Dim ond yn Pwll y Grawys l y bydd gwasanaeth 14 yn stopio. Bydd yn gadael Dinbych drwy Ffordd Ffynnon Barker a thrwy Barc Busnes Dinbych.
Bydd gwasanaeth arferol yn rhedeg ar ddydd Sadwrn 21ain a dydd Sul 22ain