I ddathlu Diwrnod Iechyd Meddwl y Byd, mae Sir Ddinbych yn Gweithio yn falch i gyhoeddi bod eu digwyddiad "Mynd i'r Afael ag Iechyd Meddwl" yn dychwelyd!
Yn dilyn llwyddiant digwyddiad mis Awst yn Ninbych, bydd y fenter effeithiol hon yn digwydd yng Nghlwb Pêl-droed Prestatyn ganol mis Tachwedd.
Bydd Sir Ddinbych yn Gweithio, mewn partneriaeth â Chyngor Tref Prestatyn, yn cynnal y digwyddiad rhad ac am ddim hwn sy’n canolbwyntio ar fynd i’r afael ag iechyd meddwl a hybu lles ddydd Mercher, 13 Tachwedd, o 12:30pm tan 3:30pm.
Bydd y digwyddiad yn cynnwys amrywiaeth o weithgareddau diddorol ar thema Rygbi a gynlluniwyd i roi hwb i'ch hwyliau tra'n darparu awgrymiadau gwerthfawr ar iechyd meddwl a lles.
Dywedodd y Cynghorydd Jason McLellan, Arweinydd y Cyngor ac Aelod Arweiniol Twf Economaidd a Threchu Amddifadedd:
‘’Rydym yn falch o gefnogi’r fenter bwysig hon, gan ddod â’n cymuned ynghyd i fynd i’r afael ag iechyd meddwl a hybu lles. Drwy gydweithio â Chyngor Tref Prestatyn, gallwn greu amgylchedd cadarnhaol lle mae trigolion yn teimlo eu bod wedi’u grymuso i gymryd camau tuag at hybu eu hiechyd meddwl a’u lles. '
“Mae croeso i unrhyw un sy’n byw yn Sir Ddinbych sy’n 16 oed a throsodd fynychu’r digwyddiad i wella eu hiechyd meddwl a chael mynediad at adnoddau gwerthfawr iddyn nhw eu hunain neu’r rhai sy’n agos atynt”.
Melanie Evans, Prif Reolwr Cyflogaeth Strategol:
“Rydym yn gwybod pa mor heriol y gall fod i gymryd y cam cyntaf hwnnw tuag at geisio cymorth, ac rydym am i’r digwyddiad hwn fod yn fan lle mae unigolion yn teimlo’n gyfforddus yn gwneud hynny. Drwy gyfuno gweithgareddau difyr â hybu lles, ein nod yw darparu offer i drigolion lleol y gallant eu defnyddio ymhell ar ôl i’r digwyddiad ddod i ben. Mae’n gyfle gwych i’r gymuned ddod at ei gilydd, cysylltu, a chefnogi ei gilydd.’’
I sicrhau eich lle, tecstiwch 07795 051793 neu e-bostiwch barod@sirddinbych.gov.uk heddiw.
Mae Sir Ddinbych yn Gweithio yn cael ei hariannu’n rhannol drwy Raglen Cymunedau am Waith a Mwy Llywodraeth Cymru sy’n cefnogi’r bobl dan yr anfantais fwyaf yn y farchnad lafur i oresgyn y rhwystrau sy’n eu hatal nhw rhag cael gwaith.
Mae Sir Ddinbych yn Gweithio wedi cael £3,529,632 gan Lywodraeth y DU drwy Gronfa Ffyniant Gyffredin y DU.