Dywedwch wrthym ni a ydych chi’n derbyn cwcis.

Rydym ni’n defnyddio cwcis i gasglu gwybodaeth ynglŷn â sut ydych chi’n defnyddio sirddinbych.gov.uk. Rydym ni’n defnyddio’r wybodaeth hon i wneud yn siŵr bod y wefan yn gweithio’n iawn ac i gwella ein gwasanaethau.

Rydych chi wedi derbyn pob cwci. Gallwch newid eich gosodiadau cwcis ar unrhyw adeg.

[News article title (Cymraeg)]

5 llun o ddisgyblion yn garddio yn eu hysgolion

Bu i ddisgyblion blynyddoedd 7, 8 a 9 Ysgol Bryn Hyfryd ac Ysgol Dinas Brân dorchi eu llewys yn ddiweddar a mynd ati i arddio er mwyn helpu eu hysgolion i gyflawni rhai o’u nodau ecogyfeillgar.

Cymrodd y ddwy ysgol ran mewn prosiectau garddio, a hwyluswyd gan wasanaeth Llwybrau’r Cyngor, a welodd y bobl ifanc yn plannu 320 o fylbiau gwyllt ar draws y ddwy ysgol, gydag Ysgol Bryn Hyfryd hefyd yn plannu 12 o goed ffrwythau er mwyn tyfu perllan. Mae’r prosiectau hyn yn cefnogi prosiectau ehangach yr ysgolion mewn perthynas â bioamrywiaeth, ymgeisio am Statws Caru Gwenyn ac ailgylchu deunyddiau.

Mae Llwybrau yn cynnig cymorth i bobl ifanc yn Sir Ddinbych er mwyn lleihau eu risg o ymddieithrio oddi wrth addysg, a’u helpu i ail-ymgysylltu ag addysg neu symud i waith neu hyfforddiant ar ddiwedd blwyddyn 11. Y nod gyffredinol yw mynd i’r afael ag un o’r prif ffactorau sy’n achosi tlodi hirdymor.

Drwy’r prosiectau hyn, llwyddodd Llwybrau i helpu’r bobl ifanc i ymgysylltu â gwyddoniaeth a mathemateg drwy addysg amgen, gan roi hwb i’w hunan-barch a’u sgiliau cymdeithasol.

Llwyddodd Llwybrau i gael grant gan Cadwch Gymru'n Daclus i gynnal prosiectau yn yr ysgolion, a oedd hefyd yn cynnwys gosod llety i ddraenogod, gwenyn a phryfed, llyfrau addysgol i’r ysgolion ac offer i ofalu am y planhigion a’r coed ffrwythau wrth iddyn nhw dyfu.

Bydd y prosiect yn Ysgol Bryn Hyfryd yn cynnig buddion parhaus i’r ysgol, a fydd yn defnyddio'r ffrwythau yn eu hadrannau coginio wrth i’r coed yn eu perllan newydd dyfu, yn ogystal â gallu cynnig byrbrydau iach i bobl ifanc.

Meddai Geraint Davies, Pennaeth Gwasanaethau Addysg Cyngor Sir Ddinbych: “Mae’n fendigedig gweld disgyblion Ysgol Bryn Hyfryd ac Ysgol Dinas Brân yn mynd ati’n frwd i gymryd rhan mewn addysg amgen a fydd nid yn unig yn helpu eu datblygiad addysgol a phersonol, ond hefyd yn helpu eu hysgolion i ddod yn fwy ystyriol o’r amgylchedd a natur.

“Mae hyn wedi bod yn esiampl wych o waith partneriaeth rhwng yr ysgolion, Llwybrau a Cadwch Gymru'n Daclus i helpu pobl ifanc ail-ymgysylltu â’u haddysg mewn ffordd ymarferol a datblygu sgiliau gwerthfawr y gallan nhw eu trosglwyddo i sawl maes arall yn eu bywydau rŵan ac yn y dyfodol.”

Mae Llwybrau wedi cael £1,308,418 gan Lywodraeth y DU drwy Gronfa Ffyniant Gyffredin y DU.


Cyhoeddwyd ar: 11 Ebrill 2024