Daeth trigolion lleol i’r digwyddiad 'Taclo Iechyd Meddwl' a gafodd ei gynnal yng Nghlwb Rygbi Dinbych gan Sir Ddinbych yn Gweithio yn ddiweddar i ollwng straen a dysgu mwy am daclo iechyd meddwl.
Cafodd y digwyddiad ei drefnu i wella ymwybyddiaeth, rhoi cefnogaeth a hyrwyddo lles meddyliol ar gyfer trigolion Sir Ddinbych drwy weithgareddau difyr llawn mwynhad yn gysylltiedig â Rygbi.
Cynhaliwyd nifer o weithgareddau ar thema Rygbi, ar gyfer chwaraewyr profiadol a rhai oedd erioed wedi chwarae Rygbi, oedd yn rhoi cyfle i bawb ddysgu am fanteision cydweithio fel tîm.
Roedd y bore yn canolbwyntio ar deuluoedd a phlant, gyda sesiwn hwyl i blant a gweithgareddau i’r teulu oll.
Cynhaliwyd rhagor o weithgareddau a thrafodaethau i roi hwb i les meddyliol a chyflwyno strategaethau ymdopi gwerthfawr.
Roedd llawer o wasanaethau cymorth lleol hefyd wrth law, yn cynnwys y Gwasanaeth Ieuenctid ac Adferiad, i ddarparu gwybodaeth am gymorth oedd ar gael am ddim.
Dywedodd Liz Grieve, Pennaeth y Gwasanaeth Tai a Chymunedau:
“Mae iechyd a lles meddyliol yn gonglfaen pwysig er mwyn cyflogaeth iach.
Roedd y digwyddiad hwn yn adnodd pwysig i drigolion allu cael y cymorth maent ei angen, gan helpu gyda gwasanaethau cyflogaeth a chyfeirio pobl at gymorth hefyd.”
Dywedodd Cerian Phoenix, Arweinydd Hyfforddiant Lles, Gwytnwch a Sgiliau Meddal Sir Ddinbych yn Gweithio:
“Yn Sir Ddinbych yn Gweithio, rydyn ni’n credu mai lles yw’r sylfaen i gymuned ffynnu.
Nid cyfle i ddysgu ac ymgysylltu yn unig oedd y digwyddiad yma – roedd hefyd yn ddathliad o ymrwymiad pawb gyda’i gilydd i sicrhau iechyd meddyliol a chorfforol yn y sir.
Byddwn yn parhau i gynnal digwyddiadau tebyg i annog mwy o drigolion i wella a dysgu mwy am eu lles eu hunain.”
Mae Sir Ddinbych yn Gweithio yn cael ei hariannu’n rhannol drwy Raglen Cymunedau am Waith a Mwy Llywodraeth Cymru sy’n cefnogi’r bobl dan yr anfantais fwyaf yn y farchnad lafur i oresgyn y rhwystrau sy’n eu hatal nhw rhag cael gwaith.
Mae Sir Ddinbych yn Gweithio wedi’w hariannu’n rhannol gan Lywodraeth y DU.