Dywedwch wrthym ni a ydych chi’n derbyn cwcis.

Rydym ni’n defnyddio cwcis i gasglu gwybodaeth ynglŷn â sut ydych chi’n defnyddio sirddinbych.gov.uk. Rydym ni’n defnyddio’r wybodaeth hon i wneud yn siŵr bod y wefan yn gweithio’n iawn ac i gwella ein gwasanaethau.

Rydych chi wedi derbyn pob cwci. Gallwch newid eich gosodiadau cwcis ar unrhyw adeg.

[News article title (Cymraeg)]

Y Rhyl

"Mae’r Rhyl ar fin cychwyn ar daith gyffrous a thrawsnewidiol ac mae’n fraint cael bod ymhlith y rhai sy’n llunio ei ddyfodol.”

Craig Sparrow yw cadeirydd annibynnol newydd Bwrdd Cymdogaeth y Rhyl, grŵp sydd â’r dasg o ddatblygu strategaeth adfywio gwerth £20m sydd â’r bwriad o wella’r dref glan môr, gan greu cyflogaeth, gwella seilwaith a dileu rhwystrau i gyfleoedd. Mae hyn yn ysgogi bwriad Llywodraeth y DU o greu twf economaidd a chynaliadwyedd dros y degawd nesaf a thu hwnt.

Yn gyn-ddisgybl yn Ysgol Bryn Hedydd ac Ysgol Uwchradd y Rhyl, a bellach yn Gyfarwyddwr Gweithredol Eiddo a Datblygu yn Clwyd Alyn, dywed Mr Sparrow ei bod yn “fraint” arwain grŵp sy’n cynnwys trigolion, perchnogion busnes, gwleidyddion, swyddogion y cyngor ac ymgyrchwyr llawr gwlad sy’n gweithio mewn partneriaeth i roi gweledigaeth hirdymor ar waith ar gyfer y gymuned arfordirol.

Gan gymryd y rôl oddi wrth y cyn-gadeirydd Adam Roche – a oedd “wrth ei fodd” dros Craig ac yn falch o fod wedi “helpu i osod y sylfeini” ar gyfer ymgyrch Ein Rhyl/Our Rhyl cyn “trosglwyddo’r ffagl” – ei flaenoriaeth gyntaf yw helpu i ddylunio cynllun gweithredu tair blynedd cychwynnol a nodi blaenoriaethau allweddol.

“Ar ôl tyfu i fyny yn Nwyrain y Rhyl rwy’n angerddol am y dref ac fel llawer wedi blino clywed cymaint o farn negyddol - mae’n lle bendigedig gyda phobl wych a chymaint o botensial, a’n nod yw cymryd mantais o hyn fel rhan o’n strategaeth,” meddai Craig, tad i ddwy ferch, Honor ac Ellen.

“Rwy’n falch iawn o ymuno â’r Bwrdd gan y bydd yn gyfnod diddorol a blaengar iawn i’r ardal, bydd rhai penderfyniadau mawr yn cael eu gwneud, ac rwy’n teimlo fel grŵp ein bod mewn sefyllfa dda i’w gwneud.

“Ond mae’n bwysig bod pobl yn cofio ein rôl a deall nad yw hwn yn daliad o £20m sy’n cael ei drafod gan siop siarad - fel cadeirydd byddaf yn sicrhau bod ffocws craff ar ein nodau a’n hamcanion.

“Mae’n ymrwymiad dros 10 mlynedd a chaiff ei reoli’n ofalus, wrth i ni geisio ei drosoli yn erbyn mentrau masnachol cyffrous trwy arian cyfatebol, nodi buddion cymunedol a phrosiectau cynaliadwy hirdymor.”

Ychwanegodd: “Bydd y Cynllun ar gyfer Cymdogaethau yn caniatáu i ni newid y rhagolygon ar gyfer y Rhyl, a bydd hyn yn gatalydd ar gyfer newid, gwelliant a datblygiad. Fel Bwrdd rydym yn benderfynol o wneud i hyn weithio i’r dref mewn cyfnod sy’n heriol yn economaidd – rydym wedi mynd i mewn i hyn gyda’n llygaid yn agored a chydag agwedd hynod gadarnhaol.”

Yn ei rôl o ddydd i ddydd gyda Clwyd Alyn – y darparwr tai a landlord cymdeithasol cofrestredig o Lanelwy sy’n cyflogi tua 800 o staff ac yn rheoli bron i 7,000 o gartrefi yng nghanolbarth a gogledd Cymru – mae Craig yn gweithio’n agos gyda chyrff sector preifat a chyhoeddus.

Ymunodd â’r sefydliad fel bachgen 17 oed ar Gynllun Hyfforddiant Ieuenctid ac mae wedi bod gyda nhw ers hynny, ac eithrio naw mlynedd fel Rheolwr Datblygu gyda Chymdeithas Tai Wales and West.

Wrth ddychwelyd i GlwydAlyn, canolbwyntiodd ar ei nod o ddarparu tai hygyrch o safon wrth fynd i’r afael ag achosion ac effeithiau tlodi.

“Mae aliniad rhwng fy ngyrfa a gwerthoedd cymdeithasol a gweledigaeth y Bwrdd, sy’n ymwneud yn y pen draw â chyfle, cydraddoldeb a chynwysoldeb,” meddai Craig.

“Mae ardaloedd o’r Rhyl gyda gymaint o botensial, ac i mi mae’n ymwneud ag edrych i’r dyfodol, nid ail-gipio’r gorffennol, gyda hygyrchedd a chyfleustra mor bwysig.

“Byddwn yn awyddus i newid defnydd rhai ardaloedd canol y dref a gwneud rhywbeth gwahanol, gan edrych ar arfer gorau o strydoedd mawr ac ardaloedd trefol bywiog a dibynnu nid yn unig ar fanwerthu ond ar fwyd a diod, adloniant a lletygarwch o ansawdd uchel, oherwydd mae awydd am fwy o’r pethau hyn yn lleol.

“Rydym eisiau clywed gan bobl y Rhyl a byddwn yn cynnal arolygon a grwpiau ffocws i fesur diddordeb, ymgysylltiad a blaenoriaethau – bydd eu llais a’u barn yn hollbwysig wrth i ni symud ymlaen, ynghyd â llais busnesau, addysgwyr a rhanddeiliaid allweddol.”

Am wbydoaeth bellach am Ein Rhyl/Our Rhyl ewch i sirddinbych.gov.uk/bwrdd-cymdogaeth-y-rhyl a dilynwch @einrhyl ac @ourrhyl ar Instagram, LinkedIn a TikTok/cyfryngau cymdeithasol.

Nodiadau i Olygyddion:

Bydd Cyngor Sir Ddinbych yn derbyn £20miliwn ar gyfer y Rhyl o raglen Cynllun ar gyfer Cymdogaethau Llywodraeth y DU. Bydd Bwrdd Cymdogaeth y Rhyl yn datblygu gweledigaeth 10 mlynedd ar gyfer y dref a chynllun buddsoddi cychwynnol i benderfynu pa flaenoriaethau ddylai fod.

Mae’r Cynllun ar gyfer Cymdogaethau yn rhan o gynllun y Llywodraeth i sicrhau nad oes unman yn cael ei adael ar ôl. Bydd yn helpu i adfywio ardaloedd lleol ac yn brwydro yn erbyn amddifadedd sydd wrth wraidd y broblem trwy ganolbwyntio ar dri nod: lleoedd ffyniannus, cymunedau cryfach, ac ail gipio rheolaeth.


Cyhoeddwyd ar: 09 Ebrill 2025