Dywedwch wrthym ni a ydych chi’n derbyn cwcis.

Rydym ni’n defnyddio cwcis i gasglu gwybodaeth ynglŷn â sut ydych chi’n defnyddio sirddinbych.gov.uk. Rydym ni’n defnyddio’r wybodaeth hon i wneud yn siŵr bod y wefan yn gweithio’n iawn ac i gwella ein gwasanaethau.

Rydych chi wedi derbyn pob cwci. Gallwch newid eich gosodiadau cwcis ar unrhyw adeg.

[News article title (Cymraeg)]

Gwasanaeth Dechrau Da yn lansio llyfr newydd i fabanod

Mae llyfr newydd ar gyfer babis bach wedi ei lansio gan wasanaeth Dechrau Da Llyfrgelloedd Sir Ddinbych i helpu rhoi’r cychwyn gorau mewn bywyd i blant.

Mewn amser rhigwm babis arbennig yn Llyfrgell Llanelwy yr wythnos hon, cyflwynwyd y copiau cyntaf o Siarad Babi: Du a Gwyn i fabis a rhieni. Eglurodd staff Dechrau Da Sir Ddinbych sut i ddefnyddio’r llyfr gyda babi bach iawn gan awgrymu rhigymau a chaneuon i’w canu gyda’r delweddau.

Dywedodd Bethan Hughes, Prif Lyfrgellydd Sir Ddinbych, “Mewn du a gwyn a llwyd yn unig y gall babis weld wedi eu geni, felly mae’r llyfr newydd yma wedi ei gynllunio yn arbennig ar eu cyfer gyda delweddau du a gwyn syml a chlir. Mae modd gosod y llyfr igamogam wrth ochr babi pan maent yn gorwedd neu o’u blaen unwaith maent yn gorwedd ar eu boliau, neu gall riant rannu’r llyfr gyda’r babi yn eu côl. . Bydd defnyddio’r llyfr yn helpu’r babi i ddatblygu’r sgiliau corfforol a deallusol i ffocysu eu llygaid, i droi a chodi eu pen ac i ymateb i’r llyfr a llais y rhiant.

“Rydym yn croesawu cannoedd o fabis a’u teuluoedd i’n llyfrgelloedd bob wythnos i fwynhau amser rhigwm Dechrau Da ac i fenthyg llyfrau fel aelodau llyfrgell.

“Roedden ni angen llyfr bach i’w roi fel anrheg yn fuan ar ôl genedigaeth gan nad yw hi byth yn rhy fuan i gyflwyno babis i lyfrau a rhigymau. Fe wnaethon ni gomisiynu’r lluniau gan artist graffeg ifanc lleol, Charlotte Chapple o Chalice Media, ac roedd hi’n bosib i ni gynhyrchu’r llyfr diolch i ariannu o Gronfa Datblygu’r Plentyn.

“Pan fydd y babis yma ychydig yn hŷn byddant yn derbyn rhodd o fagiau a llyfrau Dechrau Da – bydd y llyfr bach yma yn eu paratoi ar gyfer hyn. Byddwn yn dosbarthu’r llyfr i deuluoedd yn fuan trwy fydwragedd a gofalwyr iechyd ac fe fydd ar gael i’w gasglu o bob llyfrgell yn Sir Ddinbych.

Dyweddodd y Cynghorydd Emrys Wynne, Aelod Arweiniol y Gymraeg, Diwylliant a Threftadaeth, “Rwy’n hynod o falch fod y llyfr bach yma wedi ei gyhoeddi gan dîm Dechrau Da ein llyfrgelloedd. Gobeithiaf y bydd yn gychwyn ar oes o gariad tuag at lyfrau, darllen a llyfrgelloedd i’r babanod fydd yn ei dderbyn. Mae gwasanaeth Dechrau Da Sir Ddinbych yn gwneud cyfraniad sylweddol i’r gefnogaeth a gynigir i holl deuluoedd a phlant bach Sir Ddinbych, i’w helpu i ddatblygu eu sgiliau iaith, dysgu a chymdeithasu, ac i roi cyfle i rieni gyfarfod a chreu cylchoedd ffrindiau newydd. Rwy’n llongyfarch y gwasanaeth llyfrgell ar fenter lwyddiannus arall a hoffwn annog pob rhiant i ddod â’u plant bach i’r llyfrgell yn rheolaidd.”


Cyhoeddwyd ar: 27 Ionawr 2023