Dywedwch wrthym ni a ydych chi’n derbyn cwcis.

Rydym ni’n defnyddio cwcis i gasglu gwybodaeth ynglŷn â sut ydych chi’n defnyddio sirddinbych.gov.uk. Rydym ni’n defnyddio’r wybodaeth hon i wneud yn siŵr bod y wefan yn gweithio’n iawn ac i gwella ein gwasanaethau.

Rydych chi wedi derbyn pob cwci. Gallwch newid eich gosodiadau cwcis ar unrhyw adeg.

[News article title (Cymraeg)]

Marchnad y frenhines

Mae cam cyntaf y gwaith gosod y tu mewn i Farchnad y Frenhines yn y Rhyl wedi dechrau.

Wedi diwrnod agored llwyddiannus y mis diwethaf, pan ddaeth mwy na naw deg o ddarpar werthwyr i gael taith o amgylch y safle a thrafod y potensial i weithredu busnesau ar y safle hanesyddol hwn, mae’r gwaith yn mynd rhagddo y tu mewn i’r adeilad.

Mae’r cam cyntaf yn cynnwys gosod dodrefn, goleuadau a chamerâu teledu cylch cyfyng yn ogystal â gwaith trydanol hanfodol gydol yr adeilad.

Mae Marchnad y Frenhines wedi bod yn rhan allweddol o dref y Rhyl ers 1902 ac fe’i defnyddiwyd mewn amryw wahanol ffyrdd ar hyd y blynyddoedd. 

Mae’r datblygiad newydd yn cynnwys un ar bymtheg o unedau bwyd a manwerthu, bar dwy ochr ac ardal ddigwyddiadau fawr i gynnal digwyddiadau a marchnadoedd neu osod mwy o seddi.

Dywedodd y Cynghorydd Jason McLellan, Arweinydd Cyngor Sir Ddinbych ac Aelod Arweiniol Twf Economaidd a Threchu Amddifadedd:

“Roedd yn wych gweld cymaint o fusnesau lleol yn dod i’r diwrnodau agored. Roedd yn gyfle bendigedig i ddangos beth all y farchnad ei gynnig i fusnesau lleol a sut y gallent ffynnu yma. Fe gafwyd sgyrsiau addawol dros ben rhwng darpar werthwyr a thîm Marchnad y Frenhines ac mae hynny bellach yn dwyn ffrwyth.

Yn ogystal â meithrin cyswllt â darpar werthwyr, mae’r gwaith wedi dechrau ar ddatblygu a gosod y tu mewn i’r adeilad.

Mae Marchnad y Frenhines ynghanol y Rhyl, dafliad carreg o’r traeth gydag un fynedfa’n arwain o’r stryd fawr ac un arall yn mynd at y prom, sy’n golygu y bydd yn haws i bobl fynd yn syth o’r stryd fawr i lan y môr.

Mae’r datblygiad yn rhan bwysig o’r weledigaeth gyffredinol ar gyfer y Rhyl, ynghyd â’r datblygiadau eraill i adfywio’r dref mewn blynyddoedd diweddar.”


Cyhoeddwyd ar: 21 Chwefror 2025