Dywedwch wrthym ni a ydych chi’n derbyn cwcis.

Rydym ni’n defnyddio cwcis i gasglu gwybodaeth ynglŷn â sut ydych chi’n defnyddio sirddinbych.gov.uk. Rydym ni’n defnyddio’r wybodaeth hon i wneud yn siŵr bod y wefan yn gweithio’n iawn ac i gwella ein gwasanaethau.

Rydych chi wedi derbyn pob cwci. Gallwch newid eich gosodiadau cwcis ar unrhyw adeg.

[News article title (Cymraeg)]

Mae mwy o bwyntiau gwefru cerbydau trydan cyhoeddus bellach yn fyw ar draws Sir Ddinbych i gefnogi’r nod o leihau ôl troed carbon y sir.

Mae Cyngor Sir Ddinbych wedi lansio rhwydwaith o orsafoedd gwefru cerbydau trydan mewn meysydd parcio ar draws y sir yn ystod ‘NetZero WeekTM’.

Nod NetZero Week yw cefnogi mentrau i leihau allyriadau carbon i fynd i'r afael â newid hinsawdd.

Mae’r rhwydwaith o orsafoedd gwefru cerbydau trydan wedi’u lleoli mewn meysydd parcio cyhoeddus yn Ninbych, Rhuthun, Llangollen, y Rhyl a Phrestatyn, gan ddarparu safleoedd gwefru cerbydau trydan i gefnogi teithio ar draws Sir Ddinbych. Y gobaith yw bydd yr orsaf gwefru ym maes parcio Lawnt Fowlio Llanelwy yn mynd yn fyw yn ystod yr wythnos yn cychwyn y 10fed o Orffennaf.

Mae gwaith ar y rhwydwaith gwefru ychwanegol ar gyfer rhai safleoedd wedi’i gefnogi gan gyllid grant drwy Swyddfa Cerbydau Dim Allyriadau Llywodraeth y DU (OZEV).

Mae'r prosiect hwn hefyd wedi'i gynnal i gefnogi pobl i drosglwyddo i gerbyd trydan lle nad oedd ganddynt fynediad i gyfleuster gwefru o'r blaen.

Mae hefyd yn creu rhwydwaith cryfach o gyfleusterau gwefru i drigolion ac ymwelwyr wrth iddo ymuno â safleoedd gwefru cerbydau trydan presennol yn Rhodfa Brenin Prestatyn a maes parcio West Kinmel Street, y Rhyl.

Hefyd yn dod ar-lein yr haf hwn bydd pump gwefrydd cerbydau trydan ym maes parcio Lôn Las Corwen, fel rhan o brosiect ar y safle a ariennir gan Gronfa Ffyniant Bro Llywodraeth y DU, fydd yn cymryd cyfanswm y pwyntiau gwefru ar draws i sir i 80.

Mae’r rhwydwaith meysydd parcio o wefrwyr cerbydau trydan yn rhan o gamau gweithredu cyffredinol Cyngor Sir Ddinbych i fynd i’r afael â newid hinsawdd yn dilyn datganiad Argyfwng Hinsawdd ac Ecolegol yn 2019 a mabwysiadu’r

Strategaeth ar Newid Hinsawdd a Newid Ecolegol yn 2021.

Mae mentrau cerbydau trydan eraill hefyd yn rhan o’r gwaith er mwyn cyrraedd nod y cyngor o fod yn gyngor di-garbon net erbyn 2030.

Y rhestr lawn o feysydd parcio lle mae’r pwyntiau gwefru cerbydau trydan sydd ar gael i’r cyhoedd bellach yn fyw yw:

 

Lleoliad

   

Mannau Gwefru Arfaethedig

Maes Parcio Lôn y Post

Dinbych

LL16 3UN

2 x 22Kw AC deuol (gallu gwefru 4 cerbyd)

Maes Parcio Heol y Farchnad

Llangollen

LL20 8RB

2 x 22Kw AC deuol (gallu gwefru 4 cerbyd)

Maes Parcio’r Pafiliwn, Pafiliwn Cenedlaethol

Llangollen

LL20 8SW

2 x 22Kw AC deuol (gallu gwefru 4 cerbyd)

Maes Parcio Cae Ddôl, Stryd Clwyd

Rhuthun

LL15 1HN

2 x 7Kw AC deuol (gallu gwefru 4 cerbyd)

Maes Parcio’r Ganolfan Grefftau, Park Road

Rhuthun

LL15 1BB

2 x 22Kw AC deuol (gallu gwefru 4 cerbyd)

Maes Parcio Fern Ave

Prestatyn

LL19 9BP

2 x 7Kw AC deuol (gallu gwefru 4 cerbyd)

Maes Parcio Ffordd Morley

Y Rhyl

LL18 1UF

2 x 22Kw AC deuol (gallu gwefru 4 cerbyd)

 

Dywedodd y Cynghorydd Barry Mellor, Aelod Arweiniol yr Amgylchedd a Chludiant: “Mae hwn wedi bod yn gam pwysig yn ein hymrwymiad i helpu ein trigolion sydd eisiau newid i gerbydau trydan ond sydd heb y cyfleuster na’r lle parcio oddi ar y ffordd i wneud hynny. Bydd cynyddu ein rhwydwaith o wefrwyr cerbydau trydan cyhoeddus yn helpu mwy i wneud hynny.

“Bydd hyn hefyd yn helpu busnesau yn ein trefi gan y bydd mwy o ddefnyddwyr cerbydau trydan yn gallu darganfod y lleoliadau hyn ac ymweld â sefydliadau ac atyniadau lleol wrth wefru eu cerbydau ar hyd ein lleoliadau rhwydweithiau.

“Gyda chynnydd yn y defnydd o gerbydau trydan mae wedi bod yn bwysig cael yr Isadeiledd hwn yn ei le, nid yn unig ar gyfer y defnyddwyr ond hefyd i gefnogi’r gwaith o fynd i’r afael ag effaith newid hinsawdd ar ein sir.

“Rwy’n edrych ymlaen at weld y wybodaeth o ddefnyddio’r pwyntiau gwefru newydd hyn, a fydd yn ein helpu i gynllunio gwaith ar yr isadeiledd gwefru cerbydau trydan yn Sir Ddinbych yn y dyfodol.”

Fe fydd y tariff am yr offer gwefru yn cael ei arddangos ar y pwyntiau gwefru yn y maes parcio. Hefyd mae’n rhaid talu ffioedd parcio wrth ddefnyddio pwynt gwefru Cerbyd Trydan.


Cyhoeddwyd ar: 05 Gorffennaf 2023