Mae Cyngor Sir Ddinbych yn llongyfarch disgyblion sy’n derbyn eu canlyniadau TGAU heddiw (dydd Iau, 25 Awst).
Dywedodd y Cynghorydd Gill German, Aelod Arweiniol y Cabinet dros Addysg, Plant a Gwasanaethau Teulu: "Ar ran y Cyngor hoffwn longyfarch pob disgybl sydd wedi derbyn eu canlyniadau TGAU.
"Mae’r flwyddyn ddiwethaf wedi cyflwyno heriau sylweddol i ddysgwyr ac maen nhw wedi gwneud ymdrech aruthrol i gyflawni eu canlyniadau, maen nhw wedi gweithio'n galed iawn i gyrraedd yma a goresgyn llawer o rwystrau.
"Mae gwaith partneriaeth wych wedi cymryd lle i sicrhau bod myfyrwyr yn cael y canlyniadau gorau posib ac mae disgyblion wedi derbyn cefnogaeth gan eu teuluoedd a'u hysgolion. Hoffwn ddiolch i bawb sydd wedi cefnogi ein myfyrwyr gweithgar eleni.
"Hoffem ddymuno'r gorau i bob dysgwr yn eu camau nesaf."