Mae gwaith i ddymchwel Adeiladau’r Frenhines wedi ailgychwyn yn dilyn oedi byr.
Oedwyd y gwaith dymchwel tra bod peirianwyr strwythurol a chontractwyr yn gweithio ar sicrhau dymchwel yr adeiladau oedd yn weddill a thynnu asbestos yn ddiogel.
Er bod y prosiect wedi gwneud cynnydd cadarnhaol, gydag ychydig dros hanner yr adeiladau eisoes wedi eu dymchwel, mae’r oedi yn golygu y bydd y cam dymchwel yn cael ei gwblhau yn ddiweddarach na gynlluniwyd i ddechrau.
Mae Adeiladau’r Frenhines wedi eu henwi fel y prosiect ‘catalydd allweddol’ o fewn rhaglen ehangach y Cyngor o Adfywio’r Rhyl.
Meddai’r Cynghorydd Hugh Evans OBE, Arweinydd Cyngor Sir Ddinbych ac Aelod Arweiniol yr Economi: "Roedd yn bwysig oedi’r prosiect i sicrhau diogelwch y cyhoedd a gweithwyr adeiladu. Rwy’n falch bod y meysydd o bryder wedi eu datrys ac y gall y gwaith dymchwel barhau.
“Mae’r contractwyr eisoes wedi gwneud cynnydd da gyda’r gwaith dymchwel ac edrychaf ymlaen at wylio’r prosiect yn datblygu ymhellach tuag at y camau nesaf.”
Er bod gwaith ar yr adeiladau hyn wedi ailgychwyn, mae elfennau o Archfarchnad y Frenhines dal ar agor i’r cyhoedd o fynedfa’r Stryd Fawr.
Siopau sy’n parhau i fasnachu yma yw Lynn’s Hair pieces, Top Shelf Vapes, Pennywise Cards and Gifts a Steve’s Vac’s.
I gael y wybodaeth ddiweddaraf am y prosiectau sy’n rhan o raglen adfywio’r Rhyl, ewch i www.sirddinbych.gov.uk/adfywior-rhyl