Dywedwch wrthym ni a ydych chi’n derbyn cwcis.

Rydym ni’n defnyddio cwcis i gasglu gwybodaeth ynglŷn â sut ydych chi’n defnyddio sirddinbych.gov.uk. Rydym ni’n defnyddio’r wybodaeth hon i wneud yn siŵr bod y wefan yn gweithio’n iawn ac i gwella ein gwasanaethau.

Rydych chi wedi derbyn pob cwci. Gallwch newid eich gosodiadau cwcis ar unrhyw adeg.

[News article title (Cymraeg)]

Mae Cyngor Sir Ddinbych yn hysbysu trigolion y cysylltwyd â hwy gan wasanaeth Prawf, Olrhain a Diogelu GIG Cymru y gallant fod yn gymwys ar gyfer arian a gyhoeddwyd gan Lywodraeth Cymru.

Mae'r taliad Cymorth Hunan-Ynysu yn cael ei weinyddu gan awdurdodau lleol ac mae'r broses ymgeisio bellach wedi'i rhoi ar waith.

Mae gan bobl hawl i Daliad Hunan-Ynysu o £500 os ydynt yn bodloni'r holl feini prawf canlynol:
• Dywedwyd wrthynt am hunan-ynysu gan wasanaeth Profi, Olrhain a Diogelu GIG Cymru ar neu ar ôl 23 Hydref 2020
• Maent yn gyflogedig neu'n hunan-gyflogedig
• Ni allant weithio o gartref a byddant yn colli incwm o ganlyniad
• Ar hyn o bryd, maent hwy neu'ch partner yn cael o leiaf un o'r budd-daliadau canlynol:
• Credyd Cynhwysol
• Credyd Treth Gwaith
• Lwfans Cyflogaeth a Chymorth ar sail Incwm
• Lwfans Ceisio Gwaith ar sail Incwm
• Cymhorthdal Incwm
• Budd-dal Tai
• Credyd Pensiwn

Efallai y bydd taliad dewisol o £500 ar gael os yw pobl yn bodloni'r holl feini prawf canlynol:
• Dywedwyd wrthynt am hunan-ynysu gan wasanaeth Profi, Olrhain a Diogelu GIG Cymru ar neu ar ôl 23 Hydref 2020
• Rydych yn gyflogedig neu'n hunan-gyflogedig
• Ni allwch weithio o gartref a byddwch yn colli incwm o ganlyniad
Nid ydych chi na'ch partner yn derbyn ar hyn o bryd:
• Credyd Cynhwysol
• Credyd Treth Gwaith
• Lwfans Cyflogaeth a Chymorth ar sail incwm
• Lwfans Ceisio Gwaith sy'n seiliedig ar incwm
• Cymhorthdal Incwm
• Budd-dal Tai
• Credyd Pensiwn
• Byddwch yn wynebu caledi ariannol o ganlyniad i beidio â gallu gweithio tra byddwch yn hunan-ynysu.

Dywedodd y Cynghorydd Julian Thompson-Hill, Aelod Arweiniol y Cabinet dros Gyllid ac Asedau: "Rydym yn cydnabod yn llawn y bydd rhai pobl wedi dioddef caledi ariannol o ganlyniad i'r cyfyngiadau ac mae poeni am gyllid ond yn ychwanegu at bryderon pobl.

"Mae'r Taliad Hunan- Ynysu ar gael gan Lywodraeth Cymru i gynorthwyo'r rhai sydd wedi dioddef yn ariannol. Mae'r Cyngor yn gyfrifol am weinyddu'r cynllun yn Sir Ddinbych ac mae gwybodaeth am y meini prawf, yn ogystal â sut i wneud cais ar gael ar wefan y Cyngor a byddem yn annog pobl i edrych ac ystyried a ydynt yn gymwys i gael y taliadau".

I wneud cais, cliciwch yma.


Cyhoeddwyd ar: 16 Tachwedd 2020