Dywedwch wrthym ni a ydych chi’n derbyn cwcis.

Rydym ni’n defnyddio cwcis i gasglu gwybodaeth ynglŷn â sut ydych chi’n defnyddio sirddinbych.gov.uk. Rydym ni’n defnyddio’r wybodaeth hon i wneud yn siŵr bod y wefan yn gweithio’n iawn ac i gwella ein gwasanaethau.

Rydych chi wedi derbyn pob cwci. Gallwch newid eich gosodiadau cwcis ar unrhyw adeg.

[News article title (Cymraeg)]

Yn dilyn yr amharu diweddar ar y casgliadau ailgylchu, bydd Cyngor Sir Ddinbych yn caniatáu i drigolion ddefnyddio Canolfannau Ailgylchu Gwastraff Cartref (CAGC) heb wneud apwyntiad o flaen llaw.

Mae’r trefniant yma ar gyfer y safleoedd yn Ninbych, y Rhyl a Rhuthun yn unig. Bydd rhaid i’r trigolion hynny sydd am ddefnyddio’r gwasanaethau dros dro yng Nghorwen a Llangollen, neu safle Plas Madoc yn Wrecsam barhau i wneud apwyntiad o flaen llaw.

  • Gall trigolion gymryd unrhyw fath o ailgylchu i’r CAGC ar yr amod ei fod wedi ei wahanu i’r deunyddiau gwahanol priodol, h.y., papur; cardfwrdd; caniau a thuniau metel a phlastig; gwydr; bwyd a gwastraff gardd.
  • Gall trigolion wneud apwyntiad wrth gyrraedd gan ddefnyddio’r tabled fydd ar y safle (bydd cymorth ar gael os oes angen).
  • Cynyddwd y lle i ganiatáu i mwy o ymweldiadau i’n CAGCau bob dydd.
  • Mae'r Cyngor yn parhau i argymell gwneud apwyntiad o flaen llaw gan mai hyn yw’r dull mwyaf rhwydd a chyflym i ymweld â CAGC.
  • Bydd rhaid i drigolion gyda cherbydau masnach sy’n berchen ar e-drwydded sy’n caniatáu cael gwared ar wastraff cartref hefyd barhau i wneud apwyntiad o flaen llaw.

 


Cyhoeddwyd ar: 18 Mehefin 2024