Ddydd Sadwrn, 5 Ebrill bydd Carchar Rhuthun, un o atyniadau treftadaeth mwyaf poblogaidd gogledd Cymru, yn cynnal dathliad i nodi dechrau’r tymor yn 2025 a dathlu pen-blwydd arbennig iawn wrth i Garchar Rhuthun droi’n 250 oed!
Er y safai cyweirdy ar y safle flynyddoedd ynghynt, ym 1775 yr adeiladwyd y darn hynaf o’r Carchar sy’n weddill hyd heddiw. Y pensaer lleol enwog, Joseph Turner, a ddyluniodd yr adeilad a’i adeiladu, a gyda hynny gwawriodd oes newydd yn hanes y carchar. Yn ddiweddarach, codwyd adeiladau ychwanegol ar y safle gan gynnwys yr adain adnabyddus yn arddull Pentonville gyda’r celloedd tanddaearol iasol, ac er bod y carchar ei hun wedi cau ym 1916, mae pethau’n dal i ddatblygu yma hyd heddiw.
Mae Carchar Rhuthun wedi sicrhau cyllid gan Lywodraeth y Deyrnas Unedig a fydd yn troi adeilad gwreiddiol Joseph Turner yn ganolfan newydd i groesawu ymwelwyr gyda chaffi a man neilltuol i arddangos rhai o drysorau’r Sir, gan ddiogelu treftadaeth unigryw Rhuthun.
Meddai’r Cynghorydd Emrys Wynne, Aelod Arweiniol y Gymraeg, Diwylliant a Threftadaeth: “Gobeithiwn y gall pawb ymuno â ni wrth ddathlu pen-blwydd Carchar Rhuthun a dechrau’r tymor yn 2025.
“Mae gan yr adeilad hanes lliwgar dros ben a bydd ymweld â’r lle’n rhoi syniad ichi o dreftadaeth gyfoethog y lle.
“Rydyn ni’n arbennig o ffodus i gael yr adeilad pwysig hanesyddol hwn yn Sir Ddinbych, a bydd staff Carchar Rhuthun wrth law i groesawu’r ymwelwyr pan fydd y drysau’n agor ym mis Ebrill.
“Edrychwn ymlaen at eich gweld chi yn y dathliad pen-blwydd ddydd Sadwrn, 5 Ebrill – dewch yn llu.”
Dywedodd Philippa Jones, Rheolwr Gweithredu a Datblygu Safle Treftadaeth yng Ngharchar Rhuthun:
“Rydyn ni’n llawn cyffro am y datblygiad newydd yn yr adeilad yn y tu blaen, a fydd yn ein galluogi i wella’r profiad i ymwelwyr a chynnig ffyrdd newydd i’r gymuned leol gael dod i weld eu treftadaeth leol.
“Rydyn ni hefyd yn edrych ymlaen yn arw at groesawu ymwelwyr eto eleni, a gobeithiwn y gall pobl leol ymuno â ni ddydd Sadwrn, 5 Ebrill i nodi dechrau’r tymor a dathlu pen-blwydd Carchar Rhuthun yn 250 oed.”
Bydd Carchar Rhuthun yn ailagor ddydd Mercher, 2 Ebrill a chynhelir y Dathliad Pen-blwydd ddydd Sadwrn, 5 Ebrill. Gwahoddir y gymuned leol i ddod i’r seremoni swyddogol Datgloi’r Carchar am 11.00am a mwynhau diwrnod o hwyl a gemau i’r teulu ar yr Iard (codir tâl fel arfer am fynd i mewn i’r Carchar ei hun).
Yn y flwyddyn arbennig hon, gall ymwelwyr ymchwilio i hanes y Carchar drwy arddangosfeydd a gweithgareddau newydd sbon, gan gynnwys posau rhyngweithiol i ymwelwyr iau a golwg o’r newydd ar hanes y Carchar fel ffatri arfau rhyfel a’r Munitionettes a fu’n gweithio yma.
Bydd gwaith adeiladu’n digwydd gydol tymor 2025 ond ni fydd hynny’n effeithio ar y profiad unigryw o garchar Oes Fictoria, mewn atyniad a enillodd wobr ‘Travellers’ Choice’ gan TripAdvisor yn 2024.