Mae prosiect wedi ei gwblhau i ostwng carbon goleuadau stryd y sir.
Mae Cyngor Sir Ddinbych wedi gorffen prosiect gostwng ynni i newid ei holl oleuadau stryd i rai LED sydd â watedd is.
Mae’r Cyngor yn cynnal cyfanswm o 11,690 o oleuadau stryd ac yn dilyn rhai rhaglenni prawf bychan, penderfynwyd gosod goleuadau LED ynni isel dros brosiect 7 mlynedd er mwyn cyflawni arbedion o ran allbynnau carbon a chostau trydan.
Mae tîm goleuadau stryd Cyngor Sir Ddinbych wedi cwblhau’r prosiect yn ei gyfanrwydd o gaffael a dylunio i osod.
Mae’r prosiect wedi gostwng carbon o oleuadau stryd dros y cyfnod o saith mlynedd o 1,800 tunnell yn flynyddol yn ystod 2015/16 i 400 tunnell yn 2021/22.
Dywedodd y Cynghorydd Barry Mellor, Aelod Arweiniol yr Amgylchedd a Chludiant: “Bu i ni ddatgan yr Argyfwng Hinsawdd ac Ecolegol ym mis Gorffennaf 2019 ac rydym wedi bod yn datblygu cynlluniau i ddod yn gyngor ecolegol gadarnhaol a di-garbon net erbyn 2030.
“Rwy’n falch o weld canlyniad y prosiect hwn sy’n cefnogi ein blaenoriaeth i fynd i'r afael â gostwng carbon ledled y sir.
“Mae’r offer goleuo a osodwyd wedi defnyddio’r dechnoleg ac offer arbed ynni diweddaraf gan gynnwys pylu yn rhannol yn ystod y nos a disgleirdeb cyson. Mae’r prosiect a gwblhawyd wedi cyflawni gostyngiadau sylweddol yn y defnydd o drydan, allbwn carbon a biliau ynni.”