Dywedwch wrthym ni a ydych chi’n derbyn cwcis.

Rydym ni’n defnyddio cwcis i gasglu gwybodaeth ynglŷn â sut ydych chi’n defnyddio sirddinbych.gov.uk. Rydym ni’n defnyddio’r wybodaeth hon i wneud yn siŵr bod y wefan yn gweithio’n iawn ac i gwella ein gwasanaethau.

Rydych chi wedi derbyn pob cwci. Gallwch newid eich gosodiadau cwcis ar unrhyw adeg.

[News article title (Cymraeg)]

Mae staff cefn gwlad yn teithio ar hyd llwybrau gwledig trwy bŵer trydan

Mae staff cefn gwlad yn teithio ar hyd llwybrau gwledig trwy bŵer trydan.

Mae Ardal o Harddwch Naturiol Eithriadol (AHNE) Bryniau Clwyd a Dyffryn Dyfrdwy wedi croesawu aelod newydd at y tîm er mwyn helpu i fynd i’r afael â newid hinsawdd.

Fe ddatganodd Cyngor Sir Ddinbych Argyfwng Hinsawdd ac Ecolegol ym mis Gorffennaf 2019 ac mae wedi bod yn ymroddedig i ddod yn Gyngor Di-garbon Net ac Ecolegol Gadarnhaol erbyn 2030.

Bellach mae cerbyd pob pwrpas trydan (e-UTV) wedi’i leoli ym Mharc Gwledig Loggerheads sydd yn cynnig dewis i geidwaid cefn gwlad gyflawni eu dyletswyddau dyddiol heb ryddhau unrhyw allyriadau.

Polaris Ranger EV yw’r cerbyd, gyda motor 48 Foltedd, Effeithlonrwydd uchel, Anwythiad-AC.

Mae’n ymuno â fan Renault Kangoo Z.E a gyrhaeddodd yn ddiweddar sydd yn gerbyd arsyllfa symudol, gyda’r holl offer seryddol, yn cynnwys telesgopau i gefnogi’r fenter Awyr Dywyll.

Mae’r cerbyd wedi’i ariannu trwy raglen Tirweddau Cynaliadwy, Lleoedd Cynaliadwy Llywodraeth Cymru ar gyfer Parciau Cenedlaethol ac Ardaloedd o Harddwch Naturiol Eithriadol yng Nghymru.

Mae’r tasgau y gall y cerbyd e-UTV eu cyflawni yn cynnwys casglu sbwriel ger Tŵr y Jiwbilî, ymweld ag anifeiliaid sy’n pori neu staff cymorth sy’n gwneud gwaith ar lwybrau a ffiniau o amgylch Parc Gwledig Loggerheads.

Mae staff cefn gwlad wrthi'n dysgu am allu’r cerbyd i ddarganfod sut y gallant gefnogi safleoedd gwledig eraill.

Dywedodd y Cynghorydd Barry Mellor, Aelod Arweiniol yr Amgylchedd a Chludiant: “Drwy arddangos beth y gall cerbydau trydan fel yr e-UTV ei wneud yn yr amgylchedd gwledig rydym ni’n gweithio ynddo, gobeithio ein bod yn rhoi gwybodaeth i bobl eraill am eu dewisiadau cerbydau eu hunain yn yr ardal hon.

“Mae’r diffyg allyriadau o’r cerbyd yn golygu bod yr effaith yn lleol yn llai na cherbyd pob pwrpas tanwydd ffosil, llawer llai o lygredd aer a llai o lygredd sŵn. Mae defnyddio cerbyd e-UTV hefyd yn cefnogi ein haddewid i ddibynnu llai ar gerbydau sy’n cael eu pweru gan danwydd ffosil.”


Cyhoeddwyd ar: 16 Mehefin 2022