Dywedwch wrthym ni a ydych chi’n derbyn cwcis.

Rydym ni’n defnyddio cwcis i gasglu gwybodaeth ynglŷn â sut ydych chi’n defnyddio sirddinbych.gov.uk. Rydym ni’n defnyddio’r wybodaeth hon i wneud yn siŵr bod y wefan yn gweithio’n iawn ac i gwella ein gwasanaethau.

Rydych chi wedi derbyn pob cwci. Gallwch newid eich gosodiadau cwcis ar unrhyw adeg.

[News article title (Cymraeg)]

Llun o storm

Mae Cyngor Sir Ddinbych yn gofyn i bobl aros yn wyliadwrus dros y dyddiau nesaf gan fod disgwyl i Storm Eunice ddod â gwyntoedd sylweddol o gryf i'r sir.

Mae’r Swyddfa Dywydd wedi cyhoeddi rhybudd Ambr o 3am ddydd Gwener, 18 Chwefror hyd at 9pm ar yr un diwrnod. Gallai’r gwyntoedd eithriadol o gryf achosi aflonyddwch helaeth, gan gynnwys malurion yn hedfan, canghennau wedi cwympo a choed wedi’u dadwreiddio, difrod i adeiladau a chartrefi, llinellau pŵer yn disgyn, effeithiau ar ffyrdd, pontydd a llinellau rheilffordd, yn ogystal ag oedi i drafnidiaeth gyhoeddus.

Mae timau’r Cyngor wedi bod yn cynnal gwiriadau ceunentydd ar draws y sir ac mae timau torri coed wrth law i ymdrin ag unrhyw faterion sy’n dod i’r amlwg.

  • Yn anffodus, ni fydd y gwasanaeth ailgylchu gwastraff gardd yn gweithredu ddydd Gwener, oherwydd bod y safle lle rydym yn danfon y rhan fwyaf o'r gwastraff gardd yr ydym yn ei gasglu ar gau ddydd Gwener (dros dro). Mae hyn oherwydd y gwyntoedd cryfion a ddisgwylir gyda Storm Eunice. Rydym yn gofyn i gwsmeriaid gwastraff gardd BEIDIO â rhoi eu bin allan a’i gyflwyno ar eu diwrnod casglu arferol nesaf ymhen pythefnos. Noder bod casgliadau gwastraff ac ailgylchu i fod i ddigwydd fel arfer, ond a fyddai modd i chi roi’ch cynhwysyddion allan mor hwyr a phosib, er mwyn osgoi iddynt chwythu yn y gwynt. Diolch am eich cydweithrediad a'ch dealltwriaeth.
  • Bydd llifddorau arfordirol Sir Ddinbych ar gau erbyn diwedd heddiw, dydd Iau, Chwefror 17, o ganlyniad i ragolygon y tywydd a byddant yn parhau ar gau drwy gydol dydd Gwener. Bydd y sefyllfa'n cael ei gwerthuso fore Sadwrn.
  • Yn y cyfamser, mae trafodaethau'n cael eu cynnal gydag Asiantaeth Cefnffyrdd Gogledd a Chanolbarth Cymru i roi cynlluniau rheoli traffig ar waith pe bai Storm Eunice yn golygu y bydd angen cau traphontydd yr A483 a'r A5 i'r de o Wrecsam. Bydd traffig yn cael ei ddargyfeirio trwy Langollen pe bai'r traphontydd yn cael eu cau.Gan ragweld hyn, bydd contractwyr rheoli traffig yn gweithredu goleuadau traffig â llaw ar Stryd y Castell, Llangollen yn ystod y dydd ddydd Gwener, Chwefror 18.
  • Bydd parc ailgylchu Y Rhyl ar gau ddydd Gwener, Chwefror 18.
  • Mae’r Cyngor wedi gwneud y penderfyniad anodd i ofyn i bob ysgol symud i ddysgu o bell ar gyfer dydd Gwener, Chwefror 18 oherwydd y rhybudd ar gyfer Storm Eunice a’r gwyntoedd cryfion a ddisgwylir. Nid yw'r penderfyniad hwn wedi'i wneud yn ysgafn ac fe'i gwnaed i sicrhau diogelwch yr holl ddisgyblion, staff, rhieni ac ymwelwyr ar safleoedd ysgolion. Cymerwyd y penderfyniad yn dilyb trafodaethau mewnol, rhanbarthol a chenedlaethol.
  • Bydd Canolfan y Dderwen, y Rhyl ar gau ddydd Gwener.
  • Bydd meysydd parcio Nova West a Beach Road East ym Mhrestatyn a Maes Parcio Canolog, Y Rhyl, ar gau ddydd Gwener.
  • Oherwydd pryderon am ddiogelwch staff a chwsmeriaid, bydd holl lyfrgelloedd Sir Ddinbych ar gau yfory (dydd Gwener, Chwefror 18).

Dywedodd y Cynghorydd Brian Jones, Aelod Arweiniol y Cabinet dros Briffyrdd, Gwastraff a’r Amgylchedd: “Rydym yn gweithio’n agos gydag asiantaethau partner i wneud popeth o fewn ein gallu i leihau effaith Storm Eunice ar wasanaethau ar draws y sir. Mae gan y storm hon y potensial i achosi difrod ac rydym am wneud popeth o fewn ein gallu i gadw pobl yn ddiogel.

“Gofynnwn i bobl ddilyn unrhyw gyngor a gyhoeddir gan y Cyngor, Cyfoeth Naturiol Cymru neu’r gwasanaethau brys a hefyd gofynnwn i bobl gadw llygad ar ragolygon y tywydd, y cyfryngau a’r cyfryngau cymdeithasol am y cyngor a’r wybodaeth ddiweddaraf”.

Gofynnir i bobl gadw cofnod o rif 105 cwmni Scottish Power, rhag ofn y bydd unrhyw doriadau mewn trydan yn ystod y storm.

Bydd y Cyngor yn diweddaru ar y wefan yma, yn ogystal â chyfrifon Facebook a Twitter gydag unrhyw wybodaeth sy'n ymwneud â'r cyngor.


Cyhoeddwyd ar: 17 Chwefror 2022