Dywedwch wrthym ni a ydych chi’n derbyn cwcis.

Rydym ni’n defnyddio cwcis i gasglu gwybodaeth ynglŷn â sut ydych chi’n defnyddio sirddinbych.gov.uk. Rydym ni’n defnyddio’r wybodaeth hon i wneud yn siŵr bod y wefan yn gweithio’n iawn ac i gwella ein gwasanaethau.

Rydych chi wedi derbyn pob cwci. Gallwch newid eich gosodiadau cwcis ar unrhyw adeg.

[News article title (Cymraeg)]

Fflyd trydan yn teithio miloedd o filltiroedd i’r afael newid hinsawdd

Mae fflyd Trydan Cyngor Sir Ddinbych wedi teithio miloedd o filltiroedd gwyrdd ers COP26 yn Glasgow.

Ers yr uwchgynhadledd ar newid hinsawdd a gynhaliwyd yn y DU flwyddyn yn ôl, mae 31 o gerbydau fflyd trydan presennol y Cyngor, a gaiff eu defnyddio ar draws nifer o wasanaethau, wedi teithio 142,377 o filltiroedd gwyrdd.

Mae hyn gyfwerth â bron chwe gwaith o amgylch y byd neu deithio tair ar ddeg gwaith o Rhuthun i Sydney, Awstralia.

Fe ddatganodd Cyngor Sir Ddinbych Argyfwng Newid Hinsawdd ac Ecolegol ym mis Gorffennaf 2019 ac mae wedi bod yn ymroddedig i ddod yn Gyngor Di-garbon Net ac Ecolegol Gadarnhaol erbyn 2030.

Rhan o’r gwaith hwn yw cynyddu nifer y cerbydau nad ydynt yn defnyddio tanwydd ffosil a ddefnyddir gan y Cyngor. Mae enghreifftiau o’r cerbydau a ddefnyddir ar hyn o bryd yn cynnwys tacsis, bws mini trydan a ddefnyddir yn ardal Rhuthun, fan arsyllfa symudol ac ATV trydan a ddefnyddir gan staff cefn gwlad, faniau trydan a ddefnyddir i gludo nwyddau gan wahanol wasanaethau a cheir trydan sy’n cefnogi staff y gwasanaethau cymdeithasol.

Mae’r Cyngor wedi ymestyn nifer y gwefrwyr fflyd ers COP26 hefyd i 37 o fannau gwefru pwrpasol a ddefnyddir gan gerbydau fflyd yn unig ar hyn o bryd.

Mae’r rhain wedi darparu 35,084kwh i gefnogi staff i ddefnyddio cerbydau fflyd.

Yn ystod yr haf, cafodd dau beiriant gwefru cyhoeddus cyflym 50kwh eu gosod ym maes parcio Rhodfa Brenin, Prestatyn. Mae’r rhain eisoes wedi darparu 21,609kwh o wefru yn ystod bron i 1,000 o sesiynau gwefru unigol.

Mae hynny’n golygu bod 64,828 o filltiroedd wedi’u darparu i yrwyr cerbydau trydan, digon ar gyfer 27 taith o Land’s End i John O Groats ac yn ôl.

Dywedodd y Cynghorydd, Barry Mellor, Aelod Arweiniol yr Amgylchedd a Chludiant: “Rydym yn gweithio’n galed i leihau’r milltiroedd a gynhyrchir gan danwydd ffosil yn ein sir gan staff y Cyngor a’r cyhoedd er mwyn mynd i’r afael â newid hinsawdd a amlygwyd gan COP27.

“Mae’r Cyngor yn gweithio’n galed iawn i sicrhau bod ein hisadeiledd gwefru cerbydau trydan ar waith hefyd i’n helpu ni a’r cyhoedd chwarae ein rhan i fynd i’r afael â newid hinsawdd. Dros y misoedd nesaf, bydd 66 o fannau gwefru cyhoeddus ar gael ac yn fuan iawn, bydd 36 o’r rhain ar gael ym maes parcio Cinmel, Gorllewin y Rhyl.

“Rydym am sicrhau bod Sir Ddinbych yn gallu cefnogi’r rhai sydd am newid i ddefnyddio cerbyd trydan, ond a allai ei chael hi’n anodd, heb fannau parcio oddi ar y stryd.”


Cyhoeddwyd ar: 17 Tachwedd 2022