Mae gwahoddiad i drigolion gael dweud eu dweud ar y gwelliannau arfaethedig i’r rhwydwaith cerdded, olwyno a beicio lleol yn Ninbych. Mae Cyngor Sir Ddinbych yn gweithio gyda Sustrans Cymru i wneud teithio llesol – term a ddefnyddir ar gyfer siwrneiau sydd â phwrpas – yn yr ardal leol yn hygyrch, yn fwy pleserus ac yn fwy diogel i’r gymuned gyfan, gan annog mwy o siwrneiau ar droed neu ar feic, yn hytrach na’r car.
Yn ystod 2020/21, bu Cyngor Sir Ddinbych yn ymgynghori â’r cyhoedd ar rwydweithiau llwybrau’r sir ar gyfer cerdded, olwyno a beicio yn y dyfodol. Mae’r Map Rhwydwaith Teithio Llesol a luniwyd o ganlyniad, a gafodd ei gymeradwyo gan Ddirprwy Weinidog Newid Hinsawdd Cymru ym mis Rhagfyr 2022, yn dangos ble mae Cyngor Sir Ddinbych yn bwriadu gwella llwybrau cerdded a beicio yn y dref.
Hoffai Cyngor Sir Ddinbych a Sustrans ddatblygu ar yr wybodaeth a gafwyd eisoes drwy’r gwaith ymgysylltu a gynhaliwyd i helpu i lunio gwelliannau yn y dref ar gyfer y dyfodol. Bydd Sustrans hefyd yn ymgysylltu’n uniongyrchol ag ysgolion yn yr ardal i gasglu barn disgyblion ar gerdded, olwyno a beicio i’r ysgol a thu hwnt.
Mae gwahoddiad nawr i’r bobl sy’n byw, yn gweithio ac yn teithio yn Ninbych rannu eu teimladau ar y gwelliannau arfaethedig, yn cynnwys llwybrau cyd-ddefnyddio ar gyfer cerddwyr a beicwyr ar hyd ymyl Ffordd y Rhyl, Ffordd Colomendy a’r A543 yn arwain at ysgol St Brigid's, gwell cyfleusterau croesi a lledu ac uwchraddio llwybrau troed presennol.
Caiff trigolion rannu eu syniadau a’u hadborth drwy ymweld â gwefan y prosiect a gynhelir gan Sustrans: https://sustrans.info/ActiveTravelDenbigh
Bydd yr arolwg ar gael ar-lein am chwe wythnos tan 15 Ebrill 2023.
Cynhelir sesiwn galw heibio cyhoeddus yng Nghanolfan Gymunedol Eirianfa, Lle Ffatri/Dinbych ar 27 Mawrth 12 – 1:30pm a 5 – 6:30pm.
Gellir cael copïau papur o’r ymgynghoriad drwy gysylltu â Sustrans Cymru ar ebost: Denbigh@sustrans.org neu drwy ysgrifennu at Sustrans Cymru, Un Rhodfa’r Gamlas, Heol Dumballs, CF10 5BF Caerdydd.