Dywedwch wrthym ni a ydych chi’n derbyn cwcis.

Rydym ni’n defnyddio cwcis i gasglu gwybodaeth ynglŷn â sut ydych chi’n defnyddio sirddinbych.gov.uk. Rydym ni’n defnyddio’r wybodaeth hon i wneud yn siŵr bod y wefan yn gweithio’n iawn ac i gwella ein gwasanaethau.

Rydych chi wedi derbyn pob cwci. Gallwch newid eich gosodiadau cwcis ar unrhyw adeg.

[News article title (Cymraeg)]

 Môr-wenoliaid Bach Twyni Gronant

Mae galwad wedi ei wneud ar gefnogwyr bywyd gwyllt i ddod ymlaen i wneud gwahaniaeth mewn nythfa adar enwog yn Sir Ddinbych.

Mae Gwasanaeth Cefn Gwlad Sir Ddinbych yn cynnig cyfleoedd i selogion adar wirfoddoli i gefnogi nythfa Môr-wenoliaid Bach Twyni Gronant yn ystod tymor 2024.

Y safle yw’r nythfa fagu fwyaf yng Nghymru ac mae’n adnabyddus yn rhyngwladol gan ei bod yn cyfrannu at dros 10 y cant o’r boblogaeth fagu yn y DU yn ogystal ag ategu heidiau eraill o’r môr-wenoliaid bach. Nythfeydd Gronant a’r Parlwr Du yw’r unig rai sy’n bridio yng Nghymru.

Gwasanaeth Cefn Gwlad Sir Ddinbych sy’n rheoli’r nythfa (ynghyd â’i nythfa gysylltiedig wrth y Parlwr Du), gyda chymorth Grŵp Môr-wenoliaid Bach Gogledd Cymru.

Mae’r môr-wenoliaid bach yn treulio’r gaeaf ar arfordir gorllewinol Affrica, ac yn cyrraedd ym mis Mai i fridio ar y graean yma yng Ngronant. Yna maent yn gwneud y daith hir yn ôl i Affrica ym mis Awst gyda'u cywion ifanc.

Mae môr-wenoliaid bach yn agored i aflonyddwch dynol – mae eu hwyau a’u cywion wedi’u cuddliwio’n dda iawn ac yn anodd eu gweld. Maent hefyd mewn perygl gan ysglyfaethwyr o'r awyr ac ar y ddaear.

Mae tîm o wardeiniaid yn gweithio ar y safle i warchod yr adar, gan gynnal a chadw ffensys trydan sy'n atal aflonyddwch gan bobl ac ysglyfaethwyr, ymgysylltu ag ymwelwyr a chasglu data gwerthfawr.

Eglurodd Claudia Smith, Ceidwad Arfordir Gogledd Sir Ddinbych: “Mae gwirfoddolwyr yn help mawr yng Ngronant. Mae llawer i gymryd rhan ag o: yn ystod mis Ebrill, mae gwaith sefydlu ein nythfa yn cynnwys adeiladu ffensys trydan, ffens rhaff allanol a chuddfannau.

“Drwy’r tymor, mae gwirfoddolwyr yn helpu i gadw llygad am ysglyfaethwyr sy'n dod i'r nythfa, gan annog ymwelwyr i weld yr adar heb eu dychryn a chyflawni tasgau cynnal a chadw a chadw cofnodion. Ym mis Awst, mae angen tipyn o gymorth i dynnu offer o’r traeth, a bydd y cyfan yn cael ei gludo oddi ar y safle ar gyfer y gaeaf.”

Meddai’r Cynghorydd Barry Mellor, Aelod Arweiniol yr Amgylchedd a Chludiant, a Chefnogwr Bioamrywiaeth: “Mae gwirfoddoli yn ffordd wych o fynd allan i’r awyr agored, cyfarfod â phobl newydd a dysgu sgiliau newydd, yn ogystal â chyfle unigryw i weithio ar yr unig nythfa o fôr-wenoliaid bach Cymru sy’n magu! Mae gennym hefyd sesiynau gwirfoddoli ar Safleoedd Cefn Gwlad eraill ledled Sir Ddinbych, gyda chyfleoedd i gymryd rhan mewn amrywiaeth eang o dasgau.

Os oes gennych ddiddordeb mewn gwirfoddoli, cysylltwch â claudia.smith@denbighshire.gov.uk neu 07785517398.


Cyhoeddwyd ar: 18 Mawrth 2024