Dywedwch wrthym ni a ydych chi’n derbyn cwcis.

Rydym ni’n defnyddio cwcis i gasglu gwybodaeth ynglŷn â sut ydych chi’n defnyddio sirddinbych.gov.uk. Rydym ni’n defnyddio’r wybodaeth hon i wneud yn siŵr bod y wefan yn gweithio’n iawn ac i gwella ein gwasanaethau.

Rydych chi wedi derbyn pob cwci. Gallwch newid eich gosodiadau cwcis ar unrhyw adeg.

[News article title (Cymraeg)]

Mae cynllun peilot mewn ysgol yn y Rhyl i leihau llygredd aer, allyriadau carbon o deithio a gwella diogelwch ar y ffyrdd wedi cynhyrchu canlyniadau cadarnhaol.

Roedd y prosiect Strydoedd Ysgol yn golygu cau ffyrdd dros dro tu allan i Ysgol Llywelyn rhwng 8.30am a 9.15am a 2.30pm a 3.30pm. Digwyddodd y cau rhwng Mawrth 22 a 26 ac Ebrill 12 a 16.

Roedd y cau yn effeithio ar Ffordd Trellywelyn o’i gyffordd â Grosvenor Avenue i’w gyffordd â Thornley Avenue a Weaver Avenue o’i gyffordd â Ffordd Trellywelyn i’w gyffordd â Westminster Avenue a Handsworth Crescent.

Roedd mynediad yn parhau i ddeiliaid Bathodynnau Glas a thrigolion oedd yn byw o fewn y ffyrdd a effeithiwyd gan y cau dros dro.

Mae arolwg a gynhaliwyd ar ymdrechion y prosiect i wella ansawdd aer wrth atal cerbydau rhag aros tu allan i’r ysgol a diogelwch o amgylch y safle, wedi derbyn adborth cadarnhaol tuag at y cynllun dros dro gan drigolion lleol a rhieni a gwarcheidwaid.

Roedd barn y rhieni ar agwedd amgylcheddol y prosiect yn cynnwys:

  • ‘Mae cymaint o bobl yn parcio ar y palmant i ollwng eu plant, rhai yn parcio reit tu allan i’r giatiau hefyd. Mae’n anodd cadw pellter oddi wrth eraill tu allan i’r ysgol, yn arbennig pan mae gan bobl bramiau i fynd trwyddynt. Roedd hi’n braf peidio cael mygdarth ceir o amgylch y giatiau pan oedd y ffyrdd wedi cau.’
  • ‘Roedd hi’n braf iawn cael llai o draffig o amgylch yr ysgol. Mae wedi fy annog i gerdded gyda fy merch i’r ysgol. Mae’n amlwg bod llai o lygredd, ac mae’n teimlo’n fwy diogel.

Roedd y sylwadau a dderbyniwyd gan drigolion a rhieni o ran yr agwedd diogelwch yn cynnwys:

  • ‘Roedd cau y ffyrdd yn gwneud i mi deimlo bod fy mhlentyn yn llawer mwy diogel yn cerdded i ac o’r ysgol’
  • ‘Diolch am ystyried y dewisiadau ar y rhan anniogel hon o’r ffordd yn ystod amser cyrraedd a gadael.’
  • ‘Pam mae pobl yn parcio ar draws y llwybrau cerdded mae’n beryglus i gerdded gyda’r plant ar y ffordd er mwyn pasio’r ceir.’

Dywedodd y Cyng. Brian Jones, Aelod Arweiniol dros Wastraff, Cludiant a’r Amgylchedd: “Rydym yn ddiolchgar i rieni, trigolion lleol a busnesau am roi adborth gwerthfawr ar y prosiect Strydoedd Ysgol yn Ysgol Llywelyn. Mae wedi bod yn braf clywed safbwyntiau cadarnhaol ar welliannau i ddiogelwch a lles y plant ac hefyd yr effaith ar leihau llygredd aer ac allyriadau carbon o amgylch safle’r ysgol.”

“Mae gwella mesurau diogelwch o amgylch ysgolion ar gyfer ein pobl ifanc a lleihau allyriadau carbon, yn flaenoriaeth i’r Cyngor ac mae hwn yn un ymhlith nifer o brosiectau i gyflawni hyn. Hoffwn ddiolch i rieni a thrigolion lleol am eu dealltwriaeth yn ystod y cynllun peilot.”

 


Cyhoeddwyd ar: 11 Tachwedd 2021