Dywedwch wrthym ni a ydych chi’n derbyn cwcis.

Rydym ni’n defnyddio cwcis i gasglu gwybodaeth ynglŷn â sut ydych chi’n defnyddio sirddinbych.gov.uk. Rydym ni’n defnyddio’r wybodaeth hon i wneud yn siŵr bod y wefan yn gweithio’n iawn ac i gwella ein gwasanaethau.

Rydych chi wedi derbyn pob cwci. Gallwch newid eich gosodiadau cwcis ar unrhyw adeg.

[News article title (Cymraeg)]

Bydd Maes Parcio Heol y Felin yn Llangollen yn cau dros dro am 5 mis i greu safle gwaith i OBR Construction Ltd i wneud gwaith adeiladu ar gyfer prosiect Pedair Priffordd Fawr Cyngor Sir Ddinbych.

Nod prosiect Pedair Priffordd Fawr sydd wedi’i ariannu gan Gronfa Ffyniant Bro sydd yw gwella’r dirwedd a gwella hygyrchedd, dehongliad ac arwyddion yn Llangollen.

Mae’r prosiect yn rhan o fuddsoddiad gan Gronfa Ffyniant Bro Llywodraeth y DU, a sicrhawyd drwy gais ar y cyd rhwng Cyngor Sir Ddinbych a Chyngor Bwrdeistref Sirol Wrecsam ar gyfer Etholaeth De Clwyd. Cafodd y cais ei gefnogi gan Simon Baynes AS. Cafodd £3.8 miliwn ei ddyrannu i Sir Ddinbych i fuddsoddi yng nghymunedau Llangollen, Llantysilio, Corwen a’r ardaloedd cyfagos.

Bydd rhan o faes Parcio Heol y Felin ar gau i wneud safle gwaith i’r contractwyr pan fydd y gwaith yn dechrau ar 5 Chwefror a bydd yn parhau hyd at ddiwedd mis Mehefin 2024.

Bydd y cyhoedd yn dal i allu defnyddio rhan o’r maes parcio yn ystod y cyfnod hwn, gan y bydd rhai ofodau parcio ceir yn dal ar gael i’w defnyddio drwy gydol y gwaith. Bydd parcio i bobl anabl hefyd ar gael yn y maes parcio yn ystod y cyfnod hwn.

Bydd OBR Construction hefyd yn ceisio lleihau maint y safle wrth i’r cynllun dynnu tua’r terfyn i wneud mwy o le i barcio pan fo’n bosibl.

Dylai preswylwyr ac ymwelwyr sy’n dymuno defnyddio’r maes parcio yn ystod y cyfnod hwn wybod y bydd peiriannau trwm yn mynd i mewn ac allan o’r maes parcio drwy gydol y dydd rhwng 8am a 5.30pm. Bydd llwybrau cerddwyr yn y maes parcio ac i fynd i mewn ac allan ohono yn cael eu cadw’n glir bob amser, ac os na fydd hynny’n bosibl, bydd llwybrau newydd yn cael eu creu i gerddwyr.

Er y bydd yn dal yn bosibl parcio yn Heol y Felin yn ystod y cyfnod adeiladu, os bydd y maes parcio’n llawn, bydd cyfleusterau parcio eraill ar gael yn:

  • Stryd y Dwyrain, Llangollen, LL20 8PW
  • Stryd y Farchnad, Llangollen, LL20 8RB
  • Pafiliwn Llangollen, Llangollen, LL20 8SW

Meddai Barry Mellor, Aelod Arweiniol yr Amgylchedd a Chludiant: “Rwyf yn falch iawn y bydd y gwaith adeiladu ar gyfer prosiect Pedair Priffordd Fawr Llangollen yn dechrau’n fuan ac rwyf yn edrych ymlaen yn fawr i’r prosiect hanfodol hwn gael ei gwblhau, gan y bydd yn gwella’r dirwedd a gwella hygyrchedd, dehongliad ac arwyddion yn Llangollen.

“Rydym yn deall y gall preswylwyr fod yn bryderus am effaith posibl y gwaith ar eu gallu i barcio yn yr ardal, ond hoffem sicrhau pobl, er y bydd llai o fannau parcio ym maes parcio Heol y Felin yn ystod y cyfnod hwn, bydd mannau parcio eraill yn dal ar gael yn Llangollen.”

 

Mae rhagor o wybodaeth am y prosiect hwn ar gael ar ein tudalen Ffyniant Bro Pedair Priffordd Fawr.


Cyhoeddwyd ar: 31 Ionawr 2024