Dywedwch wrthym ni a ydych chi’n derbyn cwcis.

Rydym ni’n defnyddio cwcis i gasglu gwybodaeth ynglŷn â sut ydych chi’n defnyddio sirddinbych.gov.uk. Rydym ni’n defnyddio’r wybodaeth hon i wneud yn siŵr bod y wefan yn gweithio’n iawn ac i gwella ein gwasanaethau.

Rydych chi wedi derbyn pob cwci. Gallwch newid eich gosodiadau cwcis ar unrhyw adeg.

[News article title (Cymraeg)]

Bydd gwasanaeth tanysgrifio gwastraff gardd Sir Ddinbych yn ailagor i drigolion ddydd Llun gyda strwythur talu diwygiedig sy’n dod rym o 1 Ebrill 2025.

Yn dilyn saib dros dro yn y broses danysgrifio yn gynharach eleni, er mwyn cwblhau uwchraddiad hanfodol, bydd tanysgrifiadau ar gael eto o 8am, 3 Mawrth 2025.

Mae'r Cyngor yn annog trigolion sy'n tanysgrifio am y tro cyntaf i wneud hyn mewn da bryd i sicrhau y gellir dosbarthu biniau newydd mewn pryd ar gyfer 1 Ebrill ac i fanteisio'n llawn ar y gwasanaeth 12 mis.

Bydd trigolion sydd eisoes â thanysgrifiad sy’n ymestyn tu hwnt i 1 Ebrill, ddim ond yn talu cyfran o’r ffi tanysgrifio 12 mis – o’u dyddiad adnewyddu i 31 Mawrth 2026.

Bydd y gwasanaeth tanysgrifio diwygiedig yn rhedeg am gyfnod o 12 mis rhwng 1 Ebrill a 31 Mawrth bob blwyddyn a bydd tanysgrifiadau ar-lein yn costio £45 eleni. Mae cost weinyddol ychwanegol o £5 ar gyfer ceisiadau tanysgrifio drwy’r ganolfan gyswllt neu Siopau Un Alwad y Cyngor (caiff ffioedd tanysgrifio eu hadolygu'n flynyddol yn unol â chyfraddau chwyddiant). Wedi hynny, o 1 Ebrill 2026, bydd yr holl adnewyddiadau, tanysgrifiadau ac uwchraddiadau yn cyd-fynd â'r flwyddyn ariannol.

Mae Sir Ddinbych yn cynnig y gwasanaeth pythefnosol hwn fel ffordd ddewisol a chost-effeithiol o ailgylchu gwastraff gardd. Gyda 26 o gasgliadau bob blwyddyn, mae hyn yn cyfateb i tua £1.74 y casgliad. Mae'r tâl tanysgrifio yn angenrheidiol er mwyn i'r Cyngor ddarparu'r gwasanaeth anstatudol hwn.

Dywedodd y Cynghorydd Barry Mellor, Aelod Arweiniol dros yr Amgylchedd a Chludiant, “Hoffwn annog trigolion sydd am gofrestru i wneud hynny cyn gynted â phosibl i roi digon o amser ar gyfer dosbarthu’r bin newydd ac i gymryd mantais o’r gwasanaeth am y flwyddyn lawn.

“Rydym yn cydnabod bod rhai trigolion wedi profi toriad i’w gwasanaeth gwastraff gardd yn ystod 2024, ac fel arwydd o ewyllys da bydd y Cyngor yn dal pris y llynedd ar gyfer y trigolion hynny yr effeithiwyd arnynt ar gyfer y cyfnod 2025/26.”

Gall trigolion wirio a oes ganddynt danysgrifiad byw ar y dudalen dyddiadau casglu biniau ar y wefan.


Cyhoeddwyd ar: 28 Chwefror 2025