Hoffai Cyngor Sir Ddinbych roi gwybod i drigolion am y trefniadau ar gyfer casglu gwastraff dros gyfnod y Nadolig.
Bydd casgliadau’n cael eu cynnal ar y diwrnod arferol, hyd yn oed os yw’r diwrnod hwnnw’n wyliau cyhoeddus.
Yn ystod cyfnod y Nadolig a’r Flwyddyn Newydd, gofynnir i’r trigolion:
- Roi eu cynwysyddion gwastraff ac ailgylchu allan erbyn 7am ar eu diwrnod casglu arferol.
- Rhoi gwastraff na ellir ei ailgylchu yn eu bin du neu sachau pinc, ar ôl ailgylchu cymaint ag sy’n bosib.
- Rhoi unrhyw ddeunydd ychwanegol i’w ailgylchu mewn blwch cardbord ar ôl llenwi’r sach neu’r bin glas, ac eithrio gwydr, y dylech ei roi yn y cynhwysydd ailgylchu pwrpasol bob amser am resymau diogelwch.
- Tynnu rhubanau, gormodedd o dâp gludiog a ffenestri plastig oddi ar becynnau cardbord a phapur lapio cyn eu hailgylchu. Yn anffodus, rhaid rhoi papur lapio a chardiau sydd â gliter neu ffoil arnyn nhw yn y bin du, gan nad oes modd eu hailgylchu ac fe allen nhw ddifetha’r ffrwd o bapur yn y ganolfan ailgylchu.
- Ailgylchu gwastraff bwyd bob tro (wedi’i goginio neu amrwd) – mae hyd yn oed esgyrn y cig yn cael mynd i’r cadi oren ymyl palmant i gael eu troi’n gompost mewn canolfan arbenigol yn y sir.
Meddai’r Cynghorydd Barry Mellor, Aelod Arweiniol yr Amgylchedd a Chludiant: “Dymuna’r Cyngor Nadolig Llawen a Blwyddyn Newydd Dda i’n holl drigolion.
“Gwyddwn y bydd gan aelwydydd wastraff a deunyddiau ailgylchu ychwanegol dros gyfnod yr ŵyl. Mae’n bosib cael gwared â, neu ailgylchu’r rhan fwyaf o’r gwastraff hwn drwy ein gwasanaethau casglu ymyl palmant.
“Bydd dilyn y canllawiau yn helpu ein staff i gasglu gwastraff a deunyddiau ailgylchu mor effeithlon ag y bo modd dros y Nadolig a’r Flwyddyn Newydd.”
Bydd gwasanaeth casglu gwastraff swmpus a danfon biniau y Cyngor yn rhedeg yn ôl yr arfer dros y Nadolig.
Gallwch fynd â gwastraff ychwanegol i un o’n tair canolfan ailgylchu gwastraff cartref yn Y Rhyl, Dinbych a Rhuthun, a fydd ar agor i’r cyhoedd fel arfer bob diwrnod heblaw am Ddydd Nadolig, Gŵyl San Steffan a Dydd Calan.
Ni fydd gwasanaethau bore Sadwrn ym Mhafiliwn Llangollen ar gael ar Noswyl y Nadolig.
Rhaid i chi archebu eich slot amser ymlaen llaw drwy fynd i
https://www.sirddinbych.gov.uk/ailgylchu