Yn dilyn llwyddiant y Ffair Swyddi ddiwethaf, bydd ffair swyddi Sir Ddinbych yn Gweithio yn dychwelyd i Fwyty a Bar 1891 ym Mhafiliwn y Rhyl, fis Medi.
Cynhelir Ffair yr Hydref ar 25 Medi rhwng 10am-4pm, a bydd yn gyfle i unrhyw un sy’n ddi-waith neu’n ystyried newid gyrfa, gael cipolwg ar swyddi a dewisiadau lleol, yn ogystal â chlywed am y cyfleoedd amrywiol o ran hyfforddiant a phrentisiaethau y gellir gwneud cais amdanynt.
Ar hyn o bryd, mae yna 45 o gyflogwyr eisoes wedi cofrestru, ac mae disgwyl i fwy gofrestru cyn y digwyddiad.
Bydd mwy o fusnesau lleol ymhlith y cyflogwyr a fydd yn bresennol, yn ogystal ag enwau sy’n adnabyddus yn genedlaethol, megis Clwyd Alyn, Gwasanaeth Tân ac Achub Gogledd Cymru, Asda, Alpine Travel, Cyfreithwyr Gamlins a Balfour Beatty.
Bydd gwasanaethau Cyngor Sir Ddinbych hefyd yn bresennol.
Bydd awr dawel rhwng 2pm – 3pm yn ystod y digwyddiad, i bobl sydd yn gwerthfawrogi amgylchedd tawelach. Mae parcio am ddim wedi’i drefnu hefyd ar gyfer unrhyw un sy’n mynychu’r digwyddiad.
Bu i 430 o bobl fynychu’r ffair swyddi ddiwethaf a gynhaliwyd ddechrau’r flwyddyn.
Meddai Fiona Gresty, Arweinydd Hyfforddiant ac Ymgysylltu â Chyflogwyr:
“Rydym yn hynod falch o gyhoeddi y bydd ein Ffair Swyddi yn cael ei chynnal unwaith eto fis Medi yn 1891, y Rhyl. Mae mwy i’r digwyddiad hwn na dim ond dod o hyd i swydd, mae’n ymwneud â chysylltu unigolion â’u dyfodol.
P’un a ydych newydd adael yr ysgol, neu’n nes ymlaen ar eich llwybr i ddod o hyd i’ch gyrfa, rydym yn annog pawb sy’n byw yn Sir Ddinbych i ymuno â ni ar y 25 Medi, er mwyn cymryd eich cam cyntaf tuag at ddyfodol mwy disglair.”
Meddai’r Cynghorydd Jason McLellan, Arweinydd y Cyngor ac Aelod Arweiniol Twf Economaidd a Threchu Amddifadedd:
“Yn dilyn llwyddiant y Ffair Swyddi ddiwethaf, gobaith Sir Ddinbych yn Gweithio yw y bydd y Ffair Swyddi nesaf yn yr Hydref yr un mor llwyddiannus.
Gyda thros 45 o gyflogwyr yn bresennol, bydd y ffair hon yn cynnig amrywiaeth eang o gyfleoedd i’r rheiny sy’n chwilio am gyfleoedd newydd o ran gyrfa.”
Ariennir Sir Ddinbych yn Gweithio yn rhannol drwy Raglen Cymunedau am Waith a Mwy Llywodraeth Cymru, sy’n cefnogi’r rhai sydd dan yr anfantais fwyaf yn y farchnad lafur i oresgyn y rhwystrau sy’n eu hatal rhag cael gwaith.
Ariennir Sir Ddinbych yn Gweithio yn rhannol gan Lywodraeth y DU.