Mae Cyngor Sir Ddinbych yn hysbysu rhieni a gwarcheidwaid y gallant bellach wneud cais am grantiau gwisg ysgol ac offer.
Mae’r cynllun grant, a elwir yn Grant Datblygu Disgyblion ar agor i ymgeiswyr a gallai pobl fod yn gymwys os ydynt yn cael o leiaf un budd-dal, megis:
- lwfans ceisio gwaith seiliedig ar incwm
- lwfans cyflogaeth a chymorth yn seiliedig ar incwm
- credyd treth plant (ond nid credyd treth gwaith) gydag incwm blynyddol sy’n is na £16,190 (Ebrill 2011)
- credyd pensiwn (credyd gwarantedig)
- Cymorth o dan Ran VI Deddf Mewnfudo a Lloches 1999
- Credyd Cynhwysol ac ni ddylai eich enillion net blynyddol fod yn fwy na £7,400
Gall y grant gynnwys gwisg ysgol, dillad chwaraeon ysgol, chwaraeon y tu allan i’r ysgol; gwisg ar gyfer gweithgareddau ehangach megis sgowtiaid a geidiaid, offer ar gyfer gweithgareddau i gefnogi’r cwricwlwm, megis dylunio a thechnoleg; offer ar gyfer tripiau tu allan i oriau ysgol, gan gynnwys dysgu awyr agored; gweithgareddau Dug Caeredin a chyfrifiaduron, gliniaduron a thabledi.
Gall rhieni/gwarcheidwaid sy’n cael budd-dal cymwys gael grant o £225 os yw eu plant yn y dosbarth derbyn neu flynyddoedd 1 i 11. Os yw’r plentyn ym Mlwyddyn 7 a gall rhieni/gwarcheidwaid fod yn gymwys i grant o £300 os ydynt yn cael un o’r budd-daliadau cymwys.
Ni ellir cael grant gwisg ysgol ac offer os ydych chi’n cael Credyd Treth Gwaith.
Os yw eich plentyn yn mynychu ysgol yn Sir Ddinbych, gallwch wneud cais ar-lein am grant trwy glicio yma.
Gall pobl sy’n gymwys ar gyfer prydau ysgol am ddim, yn ogystal â’r grant gwisg ysgol ac offer, ddefnyddio’r un ffurflen gais i wneud cais am y ddau beth.
Cynghorydd Gill German, Dirprwy Arweinydd a’r Aelod Cabinet Arweiniol ar gyfer Addysg, Plant a Theuluoedd: “Rydym yn cydnabod fod teuluoedd yn teimlo dan bwysau oherwydd costau byw a byddwn yn edrych am gymorth ariannol pellach i’w cynorthwyo gyda’r costau cynyddol. Gall fod yn gyfnod anodd o’r flwyddyn i deuluoedd a gall y grant hwn fod o gymorth iddynt i dalu am y nwyddau hyn.
Dywedodd y Cynghorydd Gwyneth Ellis, yr Aelod Cabinet Arweiniol ar gyfer Cyllid ac Asedau Strategol: “Mae Sir Ddinbych yn falch o weithio gyda Llywodraeth Cymru i weinyddu’r ffrwd gyllido hon a fydd yn darparu cymorth a rhywfaint o dawelwch meddwl i’r teuluoedd hynny sy’n ei chael yn anodd ar hyn o bryd. Rydym eisiau gwneud y broses mor syml â phosib ac mae canllawiau a ddiweddarwyd ar gael ar-lein i gynorthwyo’.