Dywedwch wrthym ni a ydych chi’n derbyn cwcis.

Rydym ni’n defnyddio cwcis i gasglu gwybodaeth ynglŷn â sut ydych chi’n defnyddio sirddinbych.gov.uk. Rydym ni’n defnyddio’r wybodaeth hon i wneud yn siŵr bod y wefan yn gweithio’n iawn ac i gwella ein gwasanaethau.

Rydych chi wedi derbyn pob cwci. Gallwch newid eich gosodiadau cwcis ar unrhyw adeg.

[News article title (Cymraeg)]

Ffilmio yn y Rhyl

Mae rhaglen Sir Ddinbych yn Gweithio Cyngor Sir Ddinbych, ar y cyd â’r Adran Gwaith a Phensiynau, Canolbwynt Cyflogadwyedd Conwy ac Eternal Media, wedi lansio prosiect arloesol sy’n dod â sefydliadau a thrigolion lleol ynghyd.

Dyluniwyd y fenter i greu fideos proffesiynol ar gyfer y cyfryngau cymdeithasol, a rhoi sgiliau cyflogadwyedd gwerthfawr i’r cyfranogwyr.

Ers diwedd blwyddyn ddiweddaf, mae dau grŵp o hyd at 10 o gyfranogwyr wedi bod yn cymryd rhan mewn cwrs creu ffilmiau pedair wythnos o hyd.

Dan arweiniad arbenigol Eternal Media, mae’r cyfranogwyr wedi dysgu sgiliau ymarferol fel defnyddio offer ffilmio, cynnal cyfweliadau a ffilmio fideos gafaelgar. Mae’r sgiliau hyn yn cael eu rhoi ar waith mewn wyth o sefydliadau lleol:

  • Sir Ddinbych yn Gweithio
  • Cadwyn Clwyd
  • RCS
  • Cerrig Camu
  • Adnodd Cymru
  • Bryntysilio
  • Cyngor Gwasanaethau Gwirfoddol Sir Ddinbych
  • Gwesty Owain Glyndŵr

Mae’r prosiect hwn yn pwysleisio cryfder cydweithio, gyda’r sefydliadau’n dangos eu heffaith ac yn cynnig cyfle unigryw i’r cyfranogwyr gael profiad ymarferol yr un pryd. Mae’r cwrs wedi helpu'r cyfranogwyr i feithrin sgiliau y gellir eu trosglwyddo, magu hyder ac archwilio llwybrau gyrfa posib.

Mae Sir Ddinbych yn Gweithio ac Eternal Media wedi cefnogi’r grwpiau bob cam o’r ffordd, ac erbyn diwedd y cwrs, mae'r cyfranogwyr wedi elwa ar y canlynol:

  • Profiad ymarferol o ddiwydiant
  • Gwell sgiliau cyfathrebu a gwaith tîm
  • Mwy o hyder ac ysgogiad
  • Gwell dealltwriaeth o sefydliadau lleol
  • Cymhwyster mewn Cyfryngau Cymdeithasol

Bydd pob sefydliad yn cael ffilm hyrwyddo fer o ansawdd da i amlygu eu gwasanaethau a’u cyfraniadau i’r gymuned. Bydd y fideos hyn yn helpu codi ymwybyddiaeth ac yn annog ymgysylltiad ar hyd a lled Sir Ddinbych a thu hwnt.

Meddai’r Cynghorydd Jason McLellan, Arweinydd y Cyngor ac Aelod Arweiniol Twf Economaidd a Threchu Amddifadedd:

“Mae’r prosiect hwn yn dangos yr hyn y gellir ei gyflawni pan mae sefydliadau’n dod ynghyd i greu cyfleoedd. Nid yn unig y mae’r prosiect yn hyrwyddo gwasanaethau lleol, mae hefyd yn grymuso trigolion Sir Ddinbych drwy roi’r sgiliau a’r hyder iddyn nhw symud ymlaen at waith.”

Meddai Sian Lloyd Roberts, Rheolwr Sgiliau Rhanbarthol Partneriaeth Sgiliau Rhanbarthol Gogledd Cymru:

“Mae’n bleser o’r mwyaf gennym weld y prosiect arloesol hwn yn ysbrydoli trigolion Sir Ddinbych gyda chyfleoedd am waith, gan roi sgiliau y gellir eu trosglwyddo iddyn nhw. Mae’n hyfryd gweld sefydliadau a chyflogwyr yn cydweithio i greu cyfleoedd mor ystyrlon, ac rydym yn croesawu’r arweinyddiaeth y mae Sir Ddinbych yn Gweithio wedi’i ddangos wrth ddatblygu’r fenter hon”.

Mae Heather Jones, Rheolwr Darpariaeth Pleidiau yr Adran Gwaith a Phensiynau wedi chwarae rhan allweddol yn y gwaith o wireddu’r fenter hon. Meddai Heather, wrth fyfyrio ar y prosiect:

“Rwyf wedi bod yn gweithio â phobl ifanc 18-24 oed yng Nghanolfan Waith y Rhyl ac roeddwn eisiau cynnig rhywbeth gwahanol, felly fe wnes i gysylltu â Marcus o Eternal Media,  rwyf wedi edmygu ei waith ers blynyddoedd. Er mwyn gwireddu hyn, bûm yn cydweithio â Sir Ddinbych yn Gweithio, i sicrhau achrediad yn ogystal â chyllid gan yr Adran Gwaith a Phensiynau. Mae’r bartneriaeth wedi profi’n llwyddiant ysgubol.”

Mae ymdrechion Heather wedi helpu i sicrhau bod cyfranogwyr yn ennill cymwysterau, sgiliau a chyfleoedd gwerthfawr, a all eu harwain at gael swydd.

Mae Sir Ddinbych yn Gweithio yn cael ei ariannu’n rhannol drwy Raglen Cymunedau am Waith a Mwy Llywodraeth Cymru, sy’n cefnogi’r bobl sy’n wynebu’r anfantais fwyaf yn y farchnad lafur i oresgyn y rhwystrau sy’n eu hatal rhag cael gwaith.

Ariennir Sir Ddinbych yn Gweithio yn rhannol gan Lywodraeth y DU.

I gael rhagor o wybodaeth am Sir Ddinbych yn Gweithio, ewch i: https://www.denbighshire.gov.uk/sirddinbychyngweithio


Cyhoeddwyd ar: 13 Ionawr 2025