Dywedwch wrthym ni a ydych chi’n derbyn cwcis.

Rydym ni’n defnyddio cwcis i gasglu gwybodaeth ynglŷn â sut ydych chi’n defnyddio sirddinbych.gov.uk. Rydym ni’n defnyddio’r wybodaeth hon i wneud yn siŵr bod y wefan yn gweithio’n iawn ac i gwella ein gwasanaethau.

Rydych chi wedi derbyn pob cwci. Gallwch newid eich gosodiadau cwcis ar unrhyw adeg.

[News article title (Cymraeg)]

Mae cyfres o sesiynau galw heibio’n cael eu cynnal gan dîm Sir Ddinbych yn Gweithio, Cyngor Sir Ddinbych ar hyn o bryd, sy’n cynnig cymorth ac arweiniad cyflogaeth am ddim. Mae’r sesiynau galw heibio yn cynnig cymorth cyflogaeth am ddim mewn lleoliadau ledled y Sir yn wythnosol.

Mae’r cymorth sydd ar gael ym mhob sesiwn yn cynnwys help gyda chwilio am swyddi, diweddaru CV, paratoi ar gyfer cyfweliadau, cymorth TG sylfaenol a llenwi ffurflenni cais.

Rhwng dydd Mawrth a dydd Gwener, bydd staff Sir Ddinbych yn Gweithio wrth law i gynnig arweiniad a chymorth yn y lleoliadau canlynol bob wythnos:

  • Dydd Mawrth – Llyfrgell y Rhyl, 2pm-4pm
  • Dydd Mercher – Canolfan Ni, Corwen, 11am-1pm
  • Dydd Iau – HWB Dinbych, 9:30am-1pm
  • Dydd Iau – Llyfrgell Rhuthun, 1pm-4pm
  • Dydd Gwener – Llyfrgell Prestatyn, 9:30am-12:30pm
  • Dydd Gwener – HWB Dinbych, 9:30am – 1pm

Meddai Tina Foulkes, Sir Ddinbych Yn Gweithio:

“Mae’r sesiynau galw heibio wythnosol rhad ac am ddim hyn yn gyfle gwych i breswylwyr Sir Ddinbych fanteisio ar gymorth cyflogadwyedd o ansawdd uchel yn y gymuned leol. Gall preswylwyr alw heibio am help gyda diweddaru neu lunio CV, dod o hyd i’r ffyrdd gorau o chwilio am swyddi a chael cyngor ac awgrymiadau ar y ffordd orau i lenwi ffurflenni cais.

Yn y sesiynau hyn, bydd cyfle hefyd i fynychwyr ddysgu mwy am sut gall Sir Ddinbych yn Gweithio helpu gyda chyllid ar gyfer hyfforddiant, cyllid ar gyfer cael gwared ar neu leihau eich rhwystrau i gyflogaeth, yn ogystal â gwybodaeth am gyrsiau hyder, cymhelliant a gwydnwch.”

Meddai’r Cynghorydd Jason McLellan, Arweinydd y Cyngor ac Aelod Arweiniol Twf Economaidd a Threchu Amddifadedd:

“Mae’r sesiynau hyn yn rhoi mynediad i breswylwyr Sir Ddinbych at gymorth cyflogaeth proffesiynol, llawn gwybodaeth ar draws y Sir.

Byddwn yn annog unrhyw un sydd o bosibl angen cymorth cyflogaeth i fynychu un o’r nifer o sesiynau hyn am ddim mewn lleoliad cyfagos.”

I gael rhagor o wybodaeth, cysylltwch â sirddinbychyngweithio@sirddinbych.gov.uk.

Ariennir Sir Ddinbych yn Gweithio yn rhannol drwy Raglen Cymunedau am Waith a Mwy Llywodraeth Cymru, sy’n cefnogi’r rhai sydd dan yr anfantais fwyaf yn y farchnad lafur i oresgyn y rhwystrau sy’n eu hatal rhag cael gwaith.

Mae Sir Ddinbych yn Gweithio wedi derbyn £3,529,632 gan Lywodraeth y DU drwy Gronfa Ffyniant Gyffredin y DU.


Cyhoeddwyd ar: 09 Awst 2023