Dywedwch wrthym ni a ydych chi’n derbyn cwcis.

Rydym ni’n defnyddio cwcis i gasglu gwybodaeth ynglŷn â sut ydych chi’n defnyddio sirddinbych.gov.uk. Rydym ni’n defnyddio’r wybodaeth hon i wneud yn siŵr bod y wefan yn gweithio’n iawn ac i gwella ein gwasanaethau.

Rydych chi wedi derbyn pob cwci. Gallwch newid eich gosodiadau cwcis ar unrhyw adeg.

[News article title (Cymraeg)]

Mae lorïau bin trydan newydd ar waith am y tro cyntaf yn Sir Ddinbych

Mae lorïau bin trydan newydd ar waith am y tro cyntaf yn Sir Ddinbych.

Yn dilyn gwaith cynefino â’r cerbydau, mae Cyngor Sir Ddinbych wedi ychwanegu dwy lori Dennis Eagle e-Collect i’r fflyd casglu gwastraff.

Daw aelodau newydd y fflyd yn dilyn profi lori Dennis Eagle e-Collect yn llwyddiannus yn ystod 2020 o gwmpas y Rhyl, Prestatyn a Rhuthun gyda staff o’r gwasanaeth Gwastraff ac Ailgylchu.

Fe ddatganodd Cyngor Sir Ddinbych Argyfwng Newid Hinsawdd ac Ecolegol ym mis Gorffennaf 2019 ac mae wedi bod yn ymroddedig i ddod yn Gyngor Di-garbon Net ac Ecolegol Gadarnhaol erbyn 2030.

Rhan o’r gwaith yma yw lleihau’r ddibyniaeth ar gerbydau sy’n defnyddio tanwydd ffosil lle bo’n ymarferol yn fflyd y Cyngor.

Mae enghreifftiau o gerbydau trydan a ddefnyddir ar hyn o bryd yn cynnwys tacsis, bws mini trydan a ddefnyddir yn ardal Rhuthun, fan arsyllfa symudol ac ATV trydan a ddefnyddir gan staff cefn gwlad, faniau a ddefnyddir i gludo nwyddau gan wahanol wasanaethau a cheir sy’n cefnogi staff y gwasanaethau cymdeithasol.

Mae cynllun lliwiau trawiadol i’r lorïau er mwyn annog pobl i leihau’r gwastraff cyffredinol a gesglir. Mae lluniau ar bob ochr i’r ddwy lori o olygfeydd hardd yn Sir Ddinbych er mwyn annog preswylwyr i leihau gwastraff ymhellach ledled y sir i ddiogelu’r golygfeydd hyn rhag newid hinsawdd.

Bydd y ddwy lori’n cael eu defnyddio ar rowndiau gogleddol y sir a fydd yn cynnwys y Rhyl, Prestatyn a hyd at ardal Trefnant. Maent yn gallu teithio am hyd at 100 milltir a chodi 1000 o finiau ar un gwefriad.

Dywedodd y Cynghorydd Barry Mellor, Aelod Arweiniol yr Amgylchedd a Chludiant: “Rydym yn ystyried yn fanwl iawn lle gallwn leihau ein dibyniaeth ar gerbydau sy’n defnyddio tanwydd ffosil mewn ffordd ymarferol. Rwy’n falch o weld y lorïau’n gweithio i gynorthwyo gyda’r gwaith o gasglu gwastraff gan fod ein staff wedi gweithio’n galed i baratoi ar gyfer y cerbydau newydd.

“Mae’r agwedd drydan yn bwysig ar gyfer ein hymgyrch i leihau ein hôl troed carbon, ond hefyd mae cynllun trawiadol y lorïau yn hwb ardderchog i breswylwyr wneud eu rhan yn ogystal drwy ein helpu i leihau gwastraff yn y sir arbennig rydym yn byw ynddi.”


Cyhoeddwyd ar: 27 Ionawr 2023