Dywedwch wrthym ni a ydych chi’n derbyn cwcis.

Rydym ni’n defnyddio cwcis i gasglu gwybodaeth ynglŷn â sut ydych chi’n defnyddio sirddinbych.gov.uk. Rydym ni’n defnyddio’r wybodaeth hon i wneud yn siŵr bod y wefan yn gweithio’n iawn ac i gwella ein gwasanaethau.

Rydych chi wedi derbyn pob cwci. Gallwch newid eich gosodiadau cwcis ar unrhyw adeg.

[News article title (Cymraeg)]

Cyfarfu'r Gweinidog Gwladol dros Ddiogelwch Adeiladau, Tân a Thwf Lleol, Alex Norris AS, â Bwrdd Cymdogaeth y Rhyl.

Cefnogaeth i weledigaeth gwerth £20 miliwn i adfywio cyrchfan glan môr boblogaidd gan Wweinidog Llywodraeth y DU sydd â chyfrifoldeb dros y stryd fawr a thwf.

Cyfarfu'r Gweinidog Gwladol dros Ddiogelwch Adeiladau, Tân a Thwf Lleol, Alex Norris AS, â Bwrdd Cymdogaeth y Rhyl ddydd Iau 24 Ebrill, sef y grŵp sydd â'r dasg o ddatblygu strategaeth i wella'r dref arfordirol, gan creu cyflogaeth, a gwella seilwaith dros y degawd nesaf.

Cynhaliodd y Gweinidog – sydd â phortffolio yn cynnwys twf lleol a rhanbarthol, a strydoedd mawr a Pharthau Buddsoddi – fforwm gydag aelodau'r Bwrdd yng Nghanolfan Ieuenctid ar Rodfa’r Dwyrain.

Fe wnaethant amlygu’r blaenoriaethau a’r heriau sy'n wynebu'r ardal, archwilio'r dull mwyaf effeithiol o ymgysylltu â'r gymuned, a thrafod nodau tymor hir a thymor byr yn unol â rhaglen Cynllun Cymdogaethau Llywodraeth y DU.

Yna ymunodd Mr Norris â grŵp oedd yn cynnwys y cadeirydd Craig Sparrow, Arweinydd Cyngor Sir Ddinbych, y Cynghorydd Jason McLellan a'r Cyfarwyddwr Corfforaethol Tony Ward, AS Gogledd Clwyd, Gill German, a Chomisiynydd Heddlu a Throseddu Gogledd Cymru, Andy Dunbobbin, am dro ar y promenâd, y stryd fawr, a rhannau o ganol a gorllewin y Rhyl.

“Roedd hi’n wych ymweld â’r Rhyl a chlywed am y cynllun uchelgeisiol y mae’r Bwrdd Cymdogaeth lleol wedi’i lunio ar gyfer y dref glan môr hyfryd hon,” meddai’r Gweinidog.

“Mae ein Cynllun ar gyfer Cymdogaethau i gyd yn ymwneud ag adfer balchder yn ein cymunedau drwy roi’r adnoddau i arweinwyr lleol adfywio eu hardaloedd, ysgogi twf a chreu cyfleoedd newydd.

“Mae’r Rhyl yn addo bod yn enghraifft wych o’r hyn y gellir ei gyflawni.”

Diolchodd Mr Sparrow i’r Gweinidog am ymweld â’r dref a dywedodd ei bod yn drafodaeth “gadarnhaol iawn” a fydd yn helpu i osod y sylfeini ar gyfer ymgyrch Ein Rhyl/Our Rhyl.

“Archwiliwyd ein gweledigaeth hirdymor ar gyfer y Rhyl, y camau nesaf a sut y gallwn gydweithio i weithredu cynllun adfywio a gweithio gyda’n cymunedau yn y blynyddoedd i ddod i sicrhau newid,” ychwanegodd.

“Roedd y Gweinidog yn gefnogol o’r cyfeiriad yr ydym yn bwriadu ei gymryd gan finiogi ein ffocws ar yr amserlen a’r targedau y dylai fod mewn lle dros y misoedd a’r blynyddoedd i ddod.

“Roedd yn gyfarfod gwerthfawr a bydd yn gadarnhaol iawn wrth ein helpu i lunio syniadau, llunio cynllun gweithredu a cheisio arferion gorau o rannau eraill o’r DU mewn ymgais i hybu economi’r Rhyl, gan sicrhau buddsoddiad a chyfleoedd masnachol mewn ystod eang o sectorau – mae cymaint o botensial.”

Am ragor o wybodaeth am Ein Rhyl/Our Rhyl ewch i sirddinbych.gov.uk/bwrdd-cymdogaeth-y-rhyl (Cymraeg) a dilynwch @einrhyl a @ourrhyl ar Instagram, LinkedIn a TikTok.

Mae’r Cynllun Cymdogaethau yn rhan o genhadaeth y Llywodraeth i sicrhau nad oes unman yn cael ei adael ar ôl. Bydd yn helpu i adfywio ardaloedd lleol ac ymladd amddifadedd wrth ei achos drwy ganolbwyntio ar dri nod: lleoedd ffyniannus, cymunedau cryfach, ac adennill rheolaeth.


Cyhoeddwyd ar: 28 Ebrill 2025