Mae Cyngor Sir Ddinbych yn newid prisiau’r gwasanaeth casglu gwastraff gwyrdd pythefnosol.
O Ionawr 18 ymlaen bydd cyfraddau tanysgrifio i wasanaeth bin gwyrdd gwastraff gardd yn cynyddu er mwyn dod â’r gwasanaeth yn nes at fodel sy’n ei ariannu’i hun.
Cost newydd y gwasanaeth safonol fydd £30 a chost y gwasanaeth uwch fydd £45.
Daw’r ffioedd newydd hyn i rym ar ddydd Llun, Ionawr 18, a byddant yn berthnasol i bob trafodyn a wneir ar y diwrnod hwnnw neu’n ddiweddarach.
Dywedodd y Cynghorydd Brian Jones, Aelod Arweiniol y Cyngor ar Wastraff, Cludiant a'r Amgylchedd: “Rydym wedi gwneud y penderfyniad anodd i gynyddu’r cyfraddau tanysgrifio er mwyn symud y gwasanaeth yn nes at fod yn wasanaeth sy'n ei ariannu'i hun, fel rhan o angen ehangach i adnabod arbedion cyllidol o fewn y Cyngor.
“Mae symud at wasanaeth sy’n ei ariannu’i hun yn golygu ein bod yn darparu gwasanaeth casglu gwastraff gardd dan system decach lle mai dim ond y rhai sy’n defnyddio’r gwasanaeth fydd yn talu.
“Bydd Sir Ddinbych yn parhau i gynnig gwasanaeth gwerth am arian sy’n gweithredu gydol y flwyddyn, gyda 26 casgliad y flwyddyn. Gellir hefyd mynd â gwastraff gardd i ganolfannau ailgylchu gwastraff cartref y sir am ddim drwy gydol y flwyddyn.”
Ni chaniateir rhoi gwastraff gardd mewn biniau du, ac ni fydd biniau du sy’n cynnwys gwastraff gardd yn cael eu gwagio.
Mae tanysgrifiad cwsmeriaid presennol wedi cael ei ymestyn yn awtomatig ar ôl stopio'r gwasanaeth gwastraff gardd yn ystod gwanwyn 2020 oherwydd Coronafeirws.
Gall preswylwyr adnewyddu tanysgrifiadau sy’n dod i ben, a gwirio pryd y gellir adnewyddu’u tanysgrifiad, yma https://www.denbighshire.gov.uk/cy/biniau-ac-ailgylchu/gwastraff-gardd.aspx
Gallwch hefyd adnewyddu’ch tanysgrifiad drwy gysylltu â’r Cyngor ar 01824 706000.