Dywedwch wrthym ni a ydych chi’n derbyn cwcis.

Rydym ni’n defnyddio cwcis i gasglu gwybodaeth ynglŷn â sut ydych chi’n defnyddio sirddinbych.gov.uk. Rydym ni’n defnyddio’r wybodaeth hon i wneud yn siŵr bod y wefan yn gweithio’n iawn ac i gwella ein gwasanaethau.

Rydych chi wedi derbyn pob cwci. Gallwch newid eich gosodiadau cwcis ar unrhyw adeg.

[News article title (Cymraeg)]

Mae Cyngor Sir Ddinbych wedi bod yn cynnal ymgyrch dros y misoedd diwethaf i annog pensiynwyr i ddarganfod mwy am y Credyd Pensiwn nad ydynt o bosibl yn ei hawlio. Mae cyfanswm o £215,000 wedi’i nodi hyd yn hyn, gyda thrigolion yn cael eu cefnogi gan Gyngor ar Bopeth Sir Ddinbych i hawlio’r budd-daliadau y mae ganddynt hawl iddynt.

Mae dros £58,000 o’r swm hwnnw wedi bod yn hawliadau Credyd Pensiwn, fodd bynnag, mae budd-daliadau eraill gan gynnwys Lwfans Gweini, Gostyngiad Treth y Cyngor a Budd-dal Tai hefyd wedi'u nodi o ganlyniad i wiriadau budd-daliadau llawn.

Ar 29 Gorffennaf 2024, cyhoeddwyd newidiadau newydd mewn perthynas â chymhwysedd ar gyfer Taliadau Tanwydd y Gaeaf. Dim ond i unigolion sy'n derbyn Credyd Pensiwn y Wladwriaeth y byddant yn cael eu darparu bellach.

Yn ystod yr Wythnos Gweithredu Credyd Pensiwn, 2 - 6 Medi, mae mwy o bobl yn cael eu hannog i wirio a ydynt yn gymwys ar gyfer y budd-dal sy’n werth, ar gyfartaledd, £3,900 y flwyddyn ac yn datgloi cymorth ychwanegol gan gynnwys Taliadau Tanwydd y Gaeaf, Treth y Cyngor, gofal iechyd ac os ydych yn 75 oed neu’n hŷn, trwydded deledu am ddim.

Amcangyfrifir bod gan oddeutu 80,000 o bensiynwyr ledled Cymru hawl i Gredyd Pensiwn, ond nad ydynt yn ei hawlio. Mae dau lythyr eisoes wedi'u hanfon at bensiynwyr cymwys yn Sir Ddinbych i dynnu sylw at y cymorth sydd ar gael a’u hannog i wneud cais yn ogystal â galwadau ffôn dilynol ac ymgysylltu â phartneriaethau.

Mae Credyd Pensiwn yn darparu cymorth hanfodol i bobl hŷn ar incwm isel, gan godi eu hincwm i leiafswm o £218.15 yr wythnos ar gyfer pobl sengl neu £332.95 ar gyfer cyplau. I’r bobl hynny sydd wedi cyrraedd oedran Pensiwn y Wladwriaeth cyn 6 Ebrill 2016, mae’n bosibl y bydd ganddynt hawl i arian ychwanegol os ydynt wedi gwneud darpariaethau tuag at eu hymddeoliad, megis cynilion neu bensiwn preifat. Gelwir hyn yn Gredyd Cynilion a gall fod hyd at £17.01 ar gyfer pobl sengl neu £19.04 ar gyfer cyplau.

Dywedodd Liz Thomas, Pennaeth Cyllid ac Archwilio, Cyngor Sir Ddinbych:

“Rwy’n falch iawn bod yr ymgyrch eisoes wedi arwain at nodi miloedd o bunnoedd o fudd-daliadau heb eu hawlio i helpu pensiynwyr yn Sir Ddinbych. Mae hyn yn newyddion i’w groesawu, a byddwn yn annog ffrindiau a pherthnasau i ddechrau sgwrs gyda phobl hŷn i ddarganfod pa gymorth ariannol a allai fod ar gael.

Mae hawlio Credyd Pensiwn yn bwysig oherwydd gall ddarparu mynediad at ystod o hawliadau eraill. Efallai mai ychydig o bunnoedd yn unig y gall rhai pobl ei hawlio mewn Credyd Pensiwn, felly gall deimlo nad yw’n werth ei hawlio, ond dylent ystyried y darlun ehangach gan ei fod yn agor y drws i lawer mwy o gymorth gan gynnwys y Taliad Tanwydd y Gaeaf. Gall sicrhau bod preswylwyr yn cynyddu incwm eu haelwydydd wneud gwahaniaeth gwirioneddol i fywydau pobl.”

Gallwch ddechrau eich cais hyd at bedwar mis cyn i chi gyrraedd oedran Pensiwn y Wladwriaeth. Gallwch hawlio unrhyw bryd ar ôl i chi gyrraedd oedran Pensiwn y Wladwriaeth, ond gall eich hawliad ond gael ei ôl-ddyddio hyd at dri mis, cyn belled a bod gennych hawl yn ystod yr amser hwnnw. Mae hyn yn golygu mai’r dyddiad olaf i wneud cais a dal i fod yn gymwys am Daliad Tanwydd y Gaeaf yw 21 Rhagfyr 2024.

Gallwch ddarganfod a ydych yn gymwys am Gredyd Pensiwn a’r swm y gallech ei hawlio gan ddefnyddio’r cyfrifiannell pensiwn.

Dywedodd Graham Kendall, Prif Swyddog Cyngor ar Bopeth Sir Ddinbych:

“Mae’r ymgyrch wedi bod yn llwyddiannus iawn gan ein bod wedi gallu targedu’r pensiynwyr hynny a allai fod yn gymwys i gael Credyd Pensiwn yn uniongyrchol drwy weithio mewn partneriaeth â Chyngor Sir Ddinbych.

“Rydym yn delio â nifer o breswylwyr sy’n ei chael yn anodd mantoli’r cyfrifon yn sgil costau byw, ond sydd o bosibl yn teimlo’n rhy falch i ystyried edrych i mewn i’r cymorth ariannol a all fod ar gael iddynt. Rydym yn ceisio tynnu rhwystrau ac annog preswylwyr i fod yn agored a thrafod eu hamgylchiadau personol.

“Rydym yn darparu cyngor a chymorth cyfrinachol gan gynnwys gwiriadau budd-daliadau llawn, llenwi ffurflenni, cefnogi cwsmeriaid i reoli tlodi tanwydd a darparu cyngor tai.”

Os ydych yn ansicr o ran eich cymhwysedd, neu os hoffech help a chymorth gyda’ch cais, cysylltwch â Chyngor ar Bopeth Sir Ddinbych ar 01745 346 775 neu trwy eu ffurflen ar-lein. Fel arall, gellir gwneud hawliadau ar-lein ar neu drwy ffonio llinell hawlio Rhadffôn Credyd Pensiwn ar 0800 99 1234.


Cyhoeddwyd ar: 03 Medi 2024