Pwyntiau Gwefru Cerbydau Trydan
Fe all Cerbydau Trydan gael eu gwefru yn rhai o feysydd parcio’r cyngor a mannau eraill yn Sir Ddinbych.
Meysydd parcio’r cyngor gyda phwyntiau gwefru Cerbydau Trydan
Mae yna bwyntiau gwefru Cerbydau Trydan ym:
Fe fydd y tariff am yr offer gwefru yn cael ei arddangos ar y pwyntiau gwefru yn y maes parcio. Hefyd mae’n rhaid talu ffioedd parcio wrth ddefnyddio pwynt gwefru Cerbyd Trydan.
Rhoi gwybod am broblem
Os oes problem gydag un o'n pwyntiau gwefru cerbydau trydan, cysylltwch â Swarco. Swarco yw'r cwmni sy'n cynnal ein pwyntiau gwefru a gallant helpu gyda'r rhan fwyaf o faterion a allai godi.
Cysylltwch â Swarco ynglŷn â phroblem gyda phwynt gwefru Cerbyd Trydan yn un o feysydd parcio’r cyngor (gwefan allanol).
Pwyntiau gwefru eraill ar gyfer Cerbydau Trydan
Mae gan Swarco fap o bwyntiau gwefru ar draws y DU i helpu gyrwyr Cerbydau Trydan i ddod o hyd i bwyntiau gwefru sydd ar gael.
Gallwch weld lle mae’r pwyntiau gwefru Cerbydau Trydan ar wefan Swarco (gwefan allanol)