Dinbych: maes parcio Ward y Ffatri

Fel rhan o’n menter ‘Am Ddim ar ôl 3’, mae parcio yn y maes parcio hwn am ddim ar ôl 3pm o 18 Tachwedd tan 31 Rhagfyr 2024.

Lleoliad a nifer o fannau parcio

Ward y Ffatri
Dinbych
LL16 3SY

Gweld y maes parcio hwn ar fap.

Maes parcio arhosiad hir.

89 lle parcio, 8 lle parcio ar gyfer yr anabl.

Oriau agor

Mae'r maes parcio hwn ar agor 24 awr y dydd.

Taliadau

Rhaid i ddeiliaid bathodynnau glas dalu ond byddant yn cael awr ychwanegol o barcio ar ben y terfyn amser a argraffwyd ar y tocyn talu ac arddangos.

Codir tâl am barcio yn y maes parcio hwn rhwng 8am a 11pm.

30 munud: Am ddim

*Mae Cyngor Tref Dinbych yn ariannu 30 munud o barcio am ddim yn y maes parcio hwn. Mae angen i chi nôl tocyn o’r peiriant talu ac arddangos neu drefnu sesiwn parcio 30 munud trwy PayByPhone er mwyn manteisio ar barcio am ddim.

  • 1 awr: £1.50
  • 3 awr: £2.50
  • Trwy'r dydd: £4.00

Fe allwch chi dalu am barcio yn y maes parcio hwn wrth y peiriant tocynnau neu gyda’ch ffôn symudol.

Darganfyddwch sut i lawrlwytho a defnyddio’r ap PayByPhone ar gyfer eich dyfais Google Android neu Apple iOS yma (gwefan allanol).

Fe allwch chi hefyd dalu ar wefan PayByPhone yma (gwefan allanol).

Unwaith rydych chi wedi gosod yr ap neu fynd i’r wefan a chofrestru’ch manylion, fe allwch chi dalu yn defnyddio cod y maes parcio sydd ar gael isod (ac ar y peiriannau talu ac arddangos):

804262

Trwyddedau parcio

Gallwch ddefnyddio’r trwyddedau hyn i barcio yn y maes parcio hwn:

Trwydded arhosiad hir - gallwch ddefnyddio trwydded parcio ar gyfer meysydd parcio arhosiad hir yn y maes parcio hwn naill ai:

  • yn un o’r mannau sydd wedi’u cadw ar gyfer deiliaid trwydded maes parcio arhosiad hir neu
  • yn unrhyw ofod parcio os oes gennych fathodyn glas dilys

Map o'r lleoliad

Sgipiwch y map gweladwy.