Talu dirwy barcio (rhybudd talu cosb)
Gelwir dirwyon parcio’n rhybuddion talu cosb hefyd (RhTC).
Rhaid i chi dalu eich RhTC o fewn 28 diwrnod o’i anfon. Mae’r dyddiad hwn wedi’i argraffu ar y RhTC. Os talwch o fewn 14 diwrnod, gallwch dalu hanner swm y ddirwy.
Talu ar-lein
Y ffordd gyflymaf i dalu eich RhTC ydi ar-lein, gan ddefnyddio cerdyn credyd neu ddebyd. Cewch eich cyfeirio at wefan Partneriaeth Prosesu Dirwyon Cymru i dalu’ch dirwy. Mae hon yn wefan ddiogel, a bydd eich taliad yn cael ei brosesu’n gyflym a diogel.
Talu dirwy barcio ar-lein (gwefan allanol)
Talu dros y ffôn
Gallwch hefyd dalu gyda’ch cerdyn credyd neu ddebyd dros y ffôn drwy ffonio 0845 6032677. Mae hwn yn wasanaeth awtomataidd, ac mae ar agor 24 awr o’r dydd.
Talu drwy'r post
Gallwch anfon siec neu archeb bost, yn daladwy i 'Partneriaeth Prosesu Dirwyon Cymru' at:
Partneriaeth Prosesu Dirwyon Cymru
Blwch Post 273
Sir Ddinbych
LL18 9EJ
Gwnewch yn siŵr eich bod yn ysgrifennu eich rhif cyfeirnod RhTC ar gefn y siec neu archeb bost. Bydd y rhif cyfeirnod hwn wedi’i argraffu ar eich RhTC.
Talu gydag arian parod
Gallwch dalu eich RhTC ag arian parod yn unrhyw un o’n Siopau Un Alwad ar draws Sir Ddinbych. Gallwch hefyd dalu mewn Swyddfeydd Post, siopau papur newydd a siopau ble gwelwch y logo PayPoint.