Rydyn ni'n rhoi 21 diwrnod o'r dyddiad ar lythyr ymgynghori, neu'r rhybudd safle i bartïon â diddordeb wneud sylw ar gais cynllunio. Os nad ydych wedi cael llythyr, gallwch wirio dyddiad gorffen yr ymgynghoriad ar-lein.
Ar ôl i'r cyfnod ymgynghori 21 diwrnod fynd heibio, bydd swyddog achos yn asesu'r ymatebion cyn ysgrifennu adroddiad gydag argymhelliad. Gellir derbyn sylwadau o hyd ar ôl y cyfnod ymgynghori 21 diwrnod a chânt eu cynnwys yn asesiad y swyddog, ar yr amod nad yw'r penderfyniad wedi'i gyhoeddi. Gan y gall hyn ddigwydd unrhyw amser ar ôl y 21 diwrnod, fe'ch anogir i gyflwyno unrhyw sylwadau o fewn y cyfnod ymgynghori.
Sut i wneud sylw ar gais cynllunio
Gallwch wneud sylw:
Unwaith y byddwn yn derbyn eich sylwadau
Mae'n ofynnol yn gyfreithiol i ni sicrhau bod yr holl ymatebion i geisiadau cynllunio yn cael eu cyhoeddi. Rydym yn gwneud hyn trwy roi eich sylwadau ar ein gwefan, gan gynnwys eich enw a'ch cyfeiriad. Dim ond llofnodion, rhifau ffôn a chyfeiriadau e-bost fydd yn cael eu golygu. Bydd sylwadau'n cael eu dileu 6 mis ar ôl i'r cais gael ei benderfynu.
Ni fyddwn yn cydnabod derbyn eich sylwadau gan fod yr holl ymatebion ar gael i'w gweld ar ein gwefan. Os na welwch eich ymateb ar y wefan cyn pen 5 diwrnod gwaith ar ôl ei anfon atom, cysylltwch â ni gan ei bod yn debygol na chawsom ni nhw. Fodd bynnag, byddwch yn ymwybodol y gall gymryd mwy o amser i brosesu ymatebion mewn cyfnodau lle mae’r llwyth gwaith yn uchel.
Ymwadiad
Ni fyddwn yn derbyn sylwadau a gyflwynir yn ddienw na'r rhai yr ydym yn eu hystyried i fod yn cynnwys sylwadau enllibus, gwahaniaethol, difenwol neu dramgwyddus.
Mae gennym ddisgresiwn llwyr yn y mater hwn, ac rydym yn cadw'r hawl i beidio â phostio sylwadau o'r fath. Rydym yn datgysylltu ein hunain o unrhyw sylwadau a wneir o natur enllibus, gwahaniaethol, difenwol neu dramgwyddus.
Ni allwn chwaith dderbyn unrhyw sylwadau sy'n cynnwys sylwadau y gellir eu hystyried yn hiliol o dan Ddeddf Cydraddoldeb 2010, gan gynnwys cyffredinoli, ystrydebau neu ganfyddiadau negyddol am hil, ethnigrwydd neu ddiwylliant.
Yn gyffredinol, sylw hiliol fyddai un sy'n cynnwys geiriau, ymadroddion neu sylwadau sy'n debygol o:
- Fod yn sarhaus i grŵp hiliol neu ethnig penodol
- Bod yn ymosodol yn hiliol, yn sarhaus neu'n fygythiol
- Rhoi pwysau i wahaniaethu ar sail hil
- Cronni casineb neu ddirmyg hiliol.
Ni fydd unrhyw sylwadau a ystyrir i fod yn cwrdd â'r meini prawf uchod yn cael eu cyhoeddi ar y wefan a chânt eu dychwelyd i'r anfonwr. Yna gall yr anfonwr ystyried a ddylid ailgyflwyno ei gynrychiolaeth heb y sylwadau a ystyriwyd yn annerbyniol.
Os oes gan ymgeisydd unrhyw bryderon sy’n ymwneud â sylwadau a gyhoeddir ar y wefan, cysylltwch â ni yn ysgrifenedig gan amlinellu’n glir beth yw’r materion sy’n achosi pryder a bydd y mater yn cael ei adolygu’n ofalus. Serch hynny, penderfyniad y Cyngor yw pa unai i gyhoeddi sylwadau ar y wefan ai peidio.