Caniatâd Rheoliadau Adeiladu
Ar gyfer y rhan fwyaf o brosiectau adeiladu, bydd angen caniatâd rheoliadau adeiladu arnoch i sicrhau bod y gwaith yn cydymffurfio â rheoliadau presennol. Mae bodloni gofynion rheoliadau adeiladu yn gyfrifoldeb i’r sawl sy’n gwneud y gwaith adeiladu ac, os nad ydynt yr un person, perchennog yr adeilad.
Mae Rheoliadau Adeiladu ar waith i ddiogelu iechyd, diogelwch a lles pobl mewn adeiladau ac o’u cwmpas, sicrhau mynediad a chyfleusterau i bobl anabl a chadwraeth tanwydd a phŵer.
Mae’n debygol y bydd angen caniatâd rheoliadau adeiladu arnoch os ydych am;
- Godi a/neu estyn unrhyw fath o adeilad
- Newid defnydd adeilad
- Gosod ffenestri a boeleri newydd
- Gwneud addasiadau llofft
- Gwneud addasiadau strwythurol mewnol
- Gosod neu addasu unrhyw osodiad a reolir, e.e. bath, cawod, boeler
- Ategu sylfeini adeilad
- Gosod gosodiadau trydanol
- Ail-doi ac ail-blastro adeilad
Mwy o wybodaeth
Gallwch gael mwy o wybodaeth am reoliadau adeiladu o;
Dogfennau cysylltiedig
Canllawiau ar gyfer taliadau rheoliadau adeiladu (PDF, 198KB)