E-ddysgu

Beth yw E-ddysgu?

E-ddysgu yw unrhyw ffurf o ddysgu sy’n cael ei gynnal trwy gyfrwng cyfryngau electronig, ar y Rhyngrwyd fel rheol. Gall hyn fod ar fideo ar YouTube, darlithoedd sy’n cael eu ffrydio ar wefannau megis Ted.com, rhaglenni teledu neu ddysgu Modiwlaidd.

Manteision E-ddysgu

Mae’n gost effeithiol ac yn arbed arian, trwy leihau’r amser rydych chi’n ei dreulio y tu allan i’r swyddfa, mae’n cael gwared ar gostau teithio a’r ffaith nad oes angen argraffu deunyddiau, mae dysgu ar-lein yn eich helpu i arbed arian ac yn cynyddu cynhyrchiant yn y gweithle.

Gallwch ddysgu bedair awr ar hugain y dydd, yn unrhyw le, pan fo’n gyfleus i chi, ar eich cyflymder chi, a lle bynnag y dewiswch chi. Caiff nifer o gyrsiau wyneb i wyneb eu cynnal yn ystod oriau gwaith arferol yn unig. Trwy adael i staff gwblhau’r cwrs ym mhle a phryd y maent yn dymuno, gallwch sicrhau fod amhariadau i amserlenni gwaith prysur yn prinhau.

Mae’n golygu bod tracio cynnydd y cwrs yn hawdd. Mae pob cwrs yn cofnodi defnyddwyr sydd yn rhyngweithio drwy’r safle, a gellir adrodd yn ôl ar hyn. Fel rhan o'ch cyfnod sefydlu bydd angen i chi gwblhau modiwlau E-ddysgu gorfodol. Gweler isod:

Sut i gael mynediad i'r wefan

Ewch i'r wefan E-ddysgu (learning.nhs.wales) (gwefan allanol)

E-ddysgu - Help

Canllaw: E-ddysgu (PDF, 1.5MB)

Cyrsiau E-ddysgu

Modiwlau gorfodol (gan gynnwys hyd):

  • Dull Sir Ddinbych: Ymsefydlu Corfforaethol - 30 munud
  • Côd Ymddygiad - 10 munud
  • Trais yn erbyn Menywod - 45 munud
  • Cydraddoldeb - 30 munud
  • Ddiogelu Grŵp A - 30 munud (angen ei adnewyddu bob tair blynedd)
  • Diogelu Data - 20 munud (angen ei adnewyddu bob tair blynedd)
  • Chwythu’r Chwiban - 10 munud
  • Ymwybyddiaeth o’r Iaith Gymraeg - 20 munud
  • Ymwybyddiaeth i Ofalwyr - 45 munud
  • Ymwybyddiaeth Iechyd Meddwl - 20 munud

Modiwlau nad ydynt yn orfodol:

  • Llunio Rhestr Fer
  • Caethwasiaeth Fodern
  • Cyflwyniad i Newid Hinsawdd
  • Troseddau Casineb
  • Ymwybyddiaeth Dementia
  • Presenoldeb yn y Gwaith
  • Cyfarfodydd Un i Un
  • Cynllun Llysgenhadon Twristiaeth
  • Modiwl 1 Deall Awtistiaeth
  • Deall cyfathrebu effeithiol ac Awtistiaeth
  • Deall Asesu ac Awtistiaeth 

Cysylltu â ni