Beth yw Llwybr Gyrfa?
Llwybr Gyrfa yw cynllun datblygu i weithiwr wneud cynnydd yn eu gyrfa. Yn debyg i brentisiaeth, mae Llwybr Gyrfa yn cynnig cyfle ffurfiol i ddatblygu gwybodaeth, dysgu sgiliau newydd ac ennill cymwysterau mewn maes penodol.
Rydym yn cynnig Llwybrau Gyrfa mewn amrywiaeth o sectorau a diwydiannau, ac ar lefelau amrywiol o brofiad. Maent hefyd yn cynnig y fantais unigryw o sicrhau swydd barhaol gyda Chyngor Sir Ddinbych Cyngor Sir Ddinbych ar ôl cwblhau'r llwybr.
Mae gan Lwybrau Gyrfa swydd-ddisgrifiad lefel mynediad a fydd â chyflog is, a swydd-ddisgrifiad lefel terfynol a fydd â chyflog uwch. Yna gosodir cynllun datblygu i ddangos yn glir y sgiliau, profiadau, gwybodaeth a chymwysterau sydd eu hangen er mwyn datblygu trwy’r graddau nes eich bod yn cyrraedd y swydd-ddisgrifiad cyflog uwch lefel terfynol.
Dogfennau Cysylltiedig