Absenoldeb oherwydd salwch a thâl salwch
Cynllun Rheoli Presenoldeb
Fel un o weithwyr y llywodraeth leol byddwch yn gallu manteisio ar gynllun salwch sydd wedi ei ddylunio i ychwanegu at y Tâl Salwch Statudol a’r Lwfans Cyflogaeth a Chymorth a ellir eu hawlio.
Bydd eich absenoldeb oherwydd salwch yn cael ei drin ar wahân i absenoldebau eraill oherwydd afiechyd diwydiannol, damwain neu ymosodiad yn sgil neu yn ystod eich cyflogaeth gyda’r Cyngor. Ni fydd cyfnodau o absenoldeb mewn perthynas ag un yn cael ei osod yn erbyn y llall at ddibenion cyfrifo’ch hawl dan y cynllun hwn.
Mae’r tabl isod yn manylu ar eich hawl i dâl salwch:
Tâl salwch
Hyd gwasanaeth | Lwfans tâl salwch |
Yn ystod blwyddyn gyntaf eich gwasanaeth
|
Mis o gyflog llawn ac, ar ôl cwblhau 4 mis o wasanaeth, hanner cyflog am ddeufis
2 fis o hanner cyflog
|
Yn ystod ail flwyddyn eich gwasanaeth
|
Deufis o gyflog llawn a 2 fis o hanner cyflog
|
Yn ystod trydedd flwyddyn eich gwasanaeth
|
4 mis o gyflog llawn a 4 mis o hanner cyflog
|
Yn ystod pedwaredd a phumed flwyddyn eich gwasanaeth
|
5 mis o gyflog llawn a 5 mis o hanner cyflog
|
Ar ôl 5 mlynedd o wasanaeth
|
6 mis o gyflog llawn a 6 mis o hanner cyflog
|
Bydd cyfnod eich tâl salwch, a’r gyfradd a delir, yn cael ei gyfrifo ar ddiwrnod cyntaf yr absenoldeb drwy ddidynnu nifer cronnol y cyfnodau o absenoldeb â thâl a gafwyd yn ystod y 12 mis cyn y diwrnod cyntaf o absenoldeb.
Yn ystod y cyfnod pan fyddwch chi’n derbyn cyflog llawn, os yw eich cyflog yn fwy na’r Tâl Salwch Statudol presennol neu’r Lwfans Cyflogaeth a Chymorth byddwch yn derbyn y gwahaniaeth rhwng cyfradd bresennol y Tâl Salwch Statudol neu’r Lwfans Cyflogaeth a Chymorth a’ch cyflog sylfaenol.
Os nad ydych chi’n gymwys i dderbyn Tâl Salwch Statudol byddwch yn derbyn ffurflen SSP1 i'w llenwi er mwyn hawlio Lwfans Cyflogaeth a Chymorth gan y Ganolfan Byd Gwaith. Byddwch yn derbyn cyflog llawn llai unrhyw Lwfans Cyflogaeth a Chymorth.
Yn ystod y cyfnodau pan fyddwch chi’n derbyn hanner cyflog, bydd eich tâl salwch yn cynnwys swm sy’n cyfateb i hanner eich enillion arferol yn ogystal â Thâl Salwch Statudol, cyn belled â nad yw’r cyfanswm yn fwy na’ch cyflog arferol. Os yw eich hawl i Dâl Salwch Statudol wedi dod i ben byddwch yn derbyn hanner eich cyflog a byddwch hefyd yn gallu hawlio Lwfans Cyflogaeth a Chymorth gan y Ganolfan Byd Gwaith.
Mae’ch tâl arferol yn cynnwys yr holl enillion sy’n daladwy i chi yn ystod cyfnod gweithio arferol, ond nid yw’n cynnwys taliadau a wneir o bryd i’w gilydd.
Os oes gennych chi fwy nag un swydd yn y Cyngor, ac os ydych chi’n absennol oherwydd salwch ar gyfer un swydd ond nid y llall, byddwch yn derbyn cyflog llawn ar gyfer y swydd yr ydych chi’n absennol ohoni.
Y taliadau salwch statudol a fydd yn cael eu hystyried ar gyfer cyfrifo eich tâl salwch galwedigaethol yw’r rheiny y mae gennych chi hawl iddyn nhw ar yr amod eich bod chi’n bodloni’r gofynion canlynol:-
- Eich bod chi wedi rhoi gwybod i’ch rheolwr atebol am eich absenoldeb yn unol â’r canllawiau
- Eich bod chi wedi datgelu unrhyw hawl sydd gennych chi i fudd-dal ac unrhyw newid yn eich amgylchiadau sy’n effeithio ar yr hawl honno
Os ydych chi wedi’ch atal rhag mynd i’r gwaith oherwydd y posibilrwydd o ddod i gysylltiad ag afiechyd heintus, byddwch yn derbyn eich cyflog arferol.
Ni fydd cyfnodau o absenoldeb mewn achosion yn cyfrif at y cynllun salwch. Fe ellir atal talu tâl salwch i chi os canfyddir eich bod chi’n camddefnyddio’r cynllun neu wedi methu darparu nodiadau ffitrwydd.
Byddwch yn cael gwybod yn ysgrifenedig pam bod eich tâl salwch yn cael ei atal a bydd modd i chi apelio.
Ni fyddwch yn gallu hawlio tâl salwch dan y cynllun oni bai eich bid chi wedi:-
- Rhoi gwybod i’r person perthnasol o fewn y terfynau amser cytunedig
- Gwneud hysbysiadau pellach yn ôl yr angen
- Cyflwyno nodyn ffitrwydd gan feddyg o fewn 8 diwrnod cyntaf yr absenoldeb
- Cyflwyno nodiadau ffitrwydd eraill gan feddyg yn ôl yr angen
Os ydych chi’n absennol am 7 niwrnod neu fwy bydd yn rhaid i chi ddarparu datganiad gan feddyg (nodyn ffitrwydd).
Mae’n bosibl hefyd y bydd yn rhaid i chi gael archwiliad meddygol gan ymarferydd meddygol wedi ei benodi gan y Cyngor. Bydd y Cyngor yn cwrdd ag unrhyw gost sydd ynghlwm wrth hyn.
Os codir tâl arnoch chi am ddatganiad gan feddyg byddwch yn derbyn ad-daliad ar ôl cyflwyno derbynneb.
Os ydych chi’n sâl pan fyddwch chi ar wyliau blynyddol byddwch yn derbyn tâl salwch o ddyddiad datganiad y meddyg.