Absenoldeb mamolaeth a thadolaeth
Absenoldeb Mamolaeth
Mae gan bob gweithiwr, beth bynnag yw hyd ei wasanaeth, hawl i absenoldeb mamolaeth arferol, sef hyd at 26 wythnos. Mae modd i rai gweithwyr gymryd hyd at 26 wythnos ychwanegol hefyd. Felly, os ydych chi’n gymwys, gallwch gymryd hyd at 52 wythnos o absenoldeb mamolaeth.
Mae modd i weithwyr sydd wedi gweithio 26 wythnos yn ddi-dor i’r llywodraeth leol erbyn diwedd y 15fed wythnos cyn y dyddiad geni disgwyliedig gymryd 26 wythnos o absenoldeb mamolaeth ychwanegol, gan roi’r dewis iddyn nhw gymryd 52 wythnos i ffwrdd.
Gall yr absenoldeb mamolaeth ddechrau ar unrhyw adeg ar ôl yr 11eg wythnos cyn y dyddiad geni disgwyliedig.
Dylech roi gwybod i’r Cyngor eich bod yn disgwyl cyn gynted â phosibl ac o leiaf 28 diwrnod cyn dechrau’r absenoldeb. Dylech hefyd ddweud pryd y byddwch chi’n dechrau’ch absenoldeb mamolaeth. Mae’n rhaid gwneud hyn yn ysgrifenedig a dylech hefyd gynnwys tystysgrif gan ymarferydd meddygol cofrestredig neu fydwraig gofrestredig sy’n nodi’r wythnos rhoi genedigaeth. Cyfeirir at y dystysgrif hon fel MATB1.
Pan fyddwch chi’n feichiog byddwch yn derbyn amser i ffwrdd gyda thâl i fynychu gofal cynenedigol, ond bydd yn rhaid i chi ddarparu tystiolaeth o’r apwyntiadau ar gais.
Bydd Asesid Risg yn y Gweithle yn cael ei gynnal er mwyn ystyried unrhyw oblygiadau iechyd a diogelwch ar gyfer gweithwyr beichiog a gweithwyr sy’n bwydo o’r fron.
Absenoldeb tadolaeth
Pwy sy’n gymwys i dderbyn absenoldeb tadolaeth?
- Gweithwyr sy’n gyfrifol am fagu'r plentyn, gan gynnwys y tad biolegol, gŵr neu bartner y fam (gan gynnwys cyplau o'r un rhyw)
- Gweithwyr sydd wedi gweithio o leiaf 26 wythnos yn ddi-dor erbyn diwedd y 15fed wythnos cyn wythnos ddisgwyliedig yr enedigaeth (neu’r wythnos lle caiff rhieni eu paru â phlentyn i’w fabwysiadu) ac sy’n dal i weithio i’r cyflogwr hyd at enedigaeth y baban
Beth yw cyfnod absenoldeb tadolaeth?
Gall gweithiwr cymwys gymryd naill ai wythnos neu bythefnos i ffwrdd, i ddechrau ar unrhyw ddiwrnod o’r wythnos, er mwyn gofalu am faban newydd-anedig neu blentyn wedi ei fabwysiadu a chefnogi’r fam neu’r rhiant sy’n mabwysiadu. Ni ellir cymryd dyddiau i ffwrdd yma ac acw, dim ond un cyfnod o absenoldeb y gellir ei gymryd, hyd yn oed os rhoddir genedigaeth i fwy nag un plentyn.
Gall y gweithiwr ddechrau’r absenoldeb tadolaeth ar ddiwrnod geni'r plentyn neu'n ddiweddarach, ond mae’n rhaid gwneud hyn o fewn y 56 diwrnod cyntaf.
Os yw'r baban yn cael ei eni cyn pryd, gellir cymryd absenoldeb tadolaeth o fewn 56 diwrnod i’r dyddiad geni disgwyliedig.
Gwelwch y polisi isod ar gyfer y cyfraddau cyflog yn ystod cyfnod tadolaeth.
Polisi rhieni (PDF, 779KB)
Dogfennau cysylltiedig
Gweithdrefn: Presenoldeb yn y Gwaith (PDF, 1.06MB)