Amser i ffwrdd ar gyfer dyletswyddau eraill
Dyletswyddau Cyhoeddus
Os ydych chi’n ymgymryd â gwasanaeth rheithgor, yn gwasanaethu ar gorff cyhoeddus neu’n ymgymryd â dyletswyddau cyhoeddus, byddwch yn gallu derbyn caniatâd i fod yn absennol gyda thâl. Os ydych chi’n gallu hawlio lwfans colli enillion yna fe ddylech chi lenwi’r ffurflen briodol. Pan fyddwch chi’n derbyn y taliad yn uniongyrchol bydd didyniad yn cael ei wneud o’ch cyflog. Nid yw hyn yn berthnasol i absenoldebau gweithwyr sy’n gorfod mynd i’r llys fel tyst ar gyfer achos sy’n amherthnasol i Gyngor Sir Ddinbych. Mewn achosion o’r fath dylid cymryd gwyliau blynyddol, gweithio oriau hyblyg neu gymryd absenoldeb di-dâl.
Time of work policy (Cymraeg)
Milwyr wrth gefn, diffoddwyr tân wrth gefn a chwnstabliaid arbennig
Milwyr wrth gefn
Mae Cyngor Sir Ddinbych yn cydnabod bod gan weithwyr sy’n filwyr wrth gefn ymrwymiadau hyfforddi blynyddol a bod posibilrwydd iddyn nhw gael eu galw i wasanaethu pan fo gweithredu milwrol. Mae’r Cyngor wedi ymrwymo i weithio gyda gweithwyr i’w cefnogi (o fewn rheswm ac ar ôl ystyried anghenion y sefydliad) yn ystod y broses hon.
Diffoddwyr tân wrth gefn a chwnstabliaid arbennig
Os yw gweithwyr yn ymgymryd ag unrhyw un o’r rolau uchod bydd modd iddyn nhw dderbyn caniatâd i fod yn absennol gyda thâl i fynychu gwersyll hyfforddiant blynyddol sy’n hanfodol (hyd at bythefnos y flwyddyn).
Absenoldeb Gofalwyr
Mae Cyngor Sir Ddinbych yn cydnabod y gall fod gan rai gweithwyr gyfrifoldebau gofalu am eraill y tu allan i’r gweithle, felly mae wedi ymrwymo i weithio gyda’r gweithwyr hyn i’w helpu i gynnal cydbwysedd bywyd a gwaith drwy ddarparu dewisiadau absenoldeb penodol.
Gweithwyr yn Gwirfoddoli
Mae’r Cyngor yn cydnabod y bydd ar rai gweithwyr eisiau manteisio ar gyfle i ddatblygu eu sgiliau proffesiynol a phersonol a helpu pobl leol neu'r amgylchedd ar yr un pryd. Drwy annog gweithgareddau gwirfoddol mae Cyngor Sir Ddinbych yn dangos ei fod yn gwerthfawrogi ei weithwyr, grwpiau lleol a chymunedau Sir Ddinbych.
Dogfennau cysylltiedig