Banc gwyliau a gwyliau cyhoeddus
Mae gennych chi hawl i wyliau gyda thâl ar gyfer pob diwrnod o wyliau statudol, cyffredinol a chyhoeddus, beth bynnag yw hyd eich gwasanaeth. Os ydych chi’n gweithio dan gontract rhan-amser bydd eich hawl yn cael ei chyfrifo i gyd-fynd â’ch oriau gwaith.
Fel rheol, yng Nghymru, ceir 8 gŵyl y banc y flwyddyn (gweler isod). Gall nifer y gwyliau banc o fewn blwyddyn wyliau amrywio yn dibynnu ar ddechrau’r flwyddyn wyliau.
- Dydd Calan
- Dydd Gwener y Groglith
- Dydd Llun y Pasg
- Gŵyl y Banc Calan Mai
- Gŵyl Banc y Gwanwyn
- Gŵyl Banc yr Haf
- Dydd Nadolig
- Gŵyl San Steffan
Bydd y Cyngor yn cydnabod unrhyw ŵyl gyhoeddus ychwanegol a bennir yn genedlaethol ac yn ei thrin fel gŵyl y banc.
Bydd gweithwyr sy’n gorfod gweithio ar ŵyl gyhoeddus neu ŵyl statudol ychwanegol yn derbyn eu tâl arferol ar gyfer y diwrnod hwnnw yn ogystal â chyfradd fesul yr awr ar gyfer pob awr a weithiwyd o fewn yr oriau gwaith arferol. Yn ychwanegol at y taliad, bydd amser i ffwrdd gyda thâl yn cael ei ganiatáu yn y dyfodol. Bydd gweithwyr wrth gefn sy’n gweithio ar ŵyl y banc yn derbyn y gyfradd fesul yr awr arferol yn unig.
Os ydych chi’n rhan o drefniadau sifft uned sy'n darparu gwasanaeth 24 awr y dydd a 7 niwrnod yr wythnos, gan gynnwys gŵyl y banc, ni fyddwch yn derbyn taliad ychwanegol. Fodd bynnag, bydd eich hawl i wyliau blynyddol yn cael ei haddasu i gynnwys nifer cyfwerth o wyliau banc.
Pan fod Dydd Nadolig, Gŵyl San Steffan a Dydd Calan ar ddydd Sadwrn neu ddydd Sul, bydd y llywodraeth yn pennu diwrnod arall (dydd Llun neu ddydd Mawrth fel rheol) yn ŵyl y banc yn lle. Os ydych chi’n gweithio yn ystod y cyfnod hwn, ar gyfer hyd at 3 gŵyl gyhoeddus, byddwch yn derbyn eich tâl arferol yn ogystal â’ch cyfradd arferol fesul yr awr am yr oriau a weithiwyd o fewn yr oriau gweithio arferol. Yn ychwanegol at y taliad, bydd amser i ffwrdd gyda thâl yn cael ei ganiatáu yn y dyfodol.
Archebu gwyliau banc
Mae’n rhaid archebu pob gŵyl y banc fel diwrnod i ffwrdd yn yr un modd â gwyliau blynyddol (ac eithrio rhai gweithwyr sy’n defnyddio system Vision Time. Gweler system clocio Vision Time - Gwyliau banc yn y canllawiau gwyliau blynyddol).
Dylai gweithwyr sicrhau eu bod yn cadw digon ar gyfer yr holl wyliau banc yn ystod eu blwyddyn wyliau. Ni fydd unrhyw amser ychwanegol ar gyfer gwyliau'r banc y tu hwnt i'r hawl pro rata sydd eisoes wedi'i ddyfarnu.
Mae’n rhaid defnyddio’r holl hawl am wyliau blynyddol erbyn diwedd y flwyddyn wyliau.
Gwyliau banc ac absenoldeb salwch
Dim ond ar ddiwrnodau gwaith y gall gweithwyr hawlio absenoldeb salwch. Nid yw gwyliau banc yn cael eu hystyried yn amser gwaith (oni bai bo gweithwyr i fod i weithio ar y diwrnod hwnnw). Felly, os yw absenoldeb yn ystod gŵyl y banc, ni all y gweithiwr hawlio salwch ar y diwrnod hwnnw ac mae’n rhaid ei hawlio o’r hawl am wyliau.