Arwydd cyntaf o’r menopos fel arfer yw newid ym mhatrwm arferol eich mislif. Efallai y cewch fislif anarferol o ysgafn neu drwm.
Gall amlder y mislif amrywio hefyd. Gall ddigwydd bob pythefnos i dair wythnos, neu efallai na fydd yn digwydd am fisoedd. Yn y diwedd, bydd y mislif yn dod i ben, ond ar gyfer rhai menywod bydd symptomau’r menopos yn parhau.
Gall rhai menywod ddechrau profi symptomau fel meigryn, anniddigrwydd a hwyliau isel yn enwedig o amgylch eu mislif, heb weld anghysondeb yn eu mislif.
Mae sawl symptom gwahanol ar gyfer y menopos a gall y symptomau amrywio o un person i’r llall. Dyma rai o’r symptomau mwyaf cyffredin:
Gall y menopos gynyddu eich risg o ddatblygu problemau penodol eraill hefyd, megis esgyrn gwan (osteoporosis (gwefan allanol)) neu afiechyd y galon.
Triniaeth ar gyfer y Menopos
Y brif driniaeth ar ffurf meddyginiaeth ar gyfer symptomau'r menopos a'r perimenopos yw therapi amnewid hormonau (HRT), sy'n disodli'r hormonau sy'n isel.
Mae triniaethau eraill ar gael os nad oes modd i chi gael HRT, neu eich bod yn dewis peidio â'i gymryd.
Therapi Amnewid Hormonau (HRT)
Y prif ddewis o driniaeth ar gyfer y menopos yw therapi amnewid hormonau, neu HRT. Mae modd ei ddefnyddio ar gyfer symptomau fel pyliau o wres, newid yn eich hwyliau, sychder yn y wain a llai o ysfa rywiol. Gall hefyd leihau eich risg o osteoporosis.
Yn y gorffennol, mae HRT wedi bod yn destun trafodaethau am ddiogelwch, oherwydd ei fod yn gysylltiedig â rhai cymhlethdodau iechyd, gan gynnwys risg ychydig yn uwch o geulad gwaed a chancr. Ond mae'r mwyafrif yn cytuno bod buddion HRT yn gorbwyso'r risg ar gyfer y mwyafrif o fenywod (gwefan allanol).
Sut mae HRT yn gweithio
Lefelau oestrogen yn gostwng sy’n achosi’r menopos. Mae HRT yn gweithio drwy "ychwanegu" at eich lefelau oestrogen, sy'n gymorth i leihau symptomau.
Bydd mwyafrif y merched sy’n defnyddio HRT angen defnyddio math cyfunol h.y. un sy’n cynnwys oestrogen a progestrogen (progesteron synthetig). Y rheswm dros hyn yw os cymerir oestrogen ar ei ben ei hun mae’n cynyddu eich risg o ddatblygu cancr endrometriaidd (cancr yn leinin y groth). Os ydych chi wedi cael hysterectomi, mae modd defnyddio HRT oestrogen yn unig yn ddiogel.
Bydd y math o HRT a gewch yn dibynnu ar eich oedran, os ydych yn parhau i gael mislif ai peidio, ac a ydych wedi cael hysterectomi.
Tabledi cyfunol neu oestrogen yn unig
Bydd mwyafrif y menywod sy’n defnyddio HRT yn cymryd tabledi, ac fel arfer byddant yn cymryd un dabled y dydd.
Mae tabled HRT yn ddewis da gan ei fod yn hawdd ac nid yw’n ymwthiol. Ond mae’n gysylltiedig â risg ychydig yn uwch o gymhlethdodau iechyd fel ceulad gwaed o gymharu â mathau eraill.
Patsys croen cyfunol neu oestrogen yn unig
Mae patsys croen HRT yn sgwariau bach sy’n glynu yn y croen ac yn rhyddhau hormonau dros ychydig o ddyddiau, cyn eu newid.
Fel y tabledi, mae’r patsys croen yn ddewis o driniaeth hawdd a syml. Yn wahanol i’r tabledi, nid oes risg uwch o geulad gwaed. Gall y patsys eich cynorthwyo i osgoi sgil-effaith fel cyfog.
Gel Oestrogen
Fel y patsys croen, mae gel oestrogen yn cael ei amsugno drwy’r croen ac nid yw’n achosi risg uwch o geulad gwaed. Er mwyn iddo weithio, mae angen i chi ei rwbio i mewn i’ch croen unwaith y dydd.
Ond, os oes gennych eich croth o hyd, bydd angen i chi gymryd rhyw fath o progestogen i aros yn ddiogel. Ar gyfer menywod sydd â system fewngroth ar gyfer atal cenhedlu, mae’n ddiogel defnyddio’r gel yma.
Oestrogen yn y wain
Os mai prif symptom eich menopos yw sychder yn y wain, gallech elwa o oestrogen yn y wain. Mae hwn yn fath penodol o HRT sy’n cynorthwyo gyda sychder yn y wain, ond nid yw’n cynorthwyo gydag unrhyw symptomau eraill o’r menopos.
Mae oestrogen ar gyfer y wain yn dod ar ffurf eli, pesari neu gylch sy’n cael ei roi yn y wain. Nid yw’n achosi’r un risgiau arferol â HRT oherwydd ei fod yn cael effaith ar yr ardal benodol yn unig - mae hyn yn golygu nad oes rhaid i chi gymryd progestogen gydag ef.
Mewnblaniad Oestrogen
Math prin o HRT yw mewnblaniad oestrogen, sydd wedi’i ddylunio i eistedd o dan y croen (yn eich abdomen fel arfer) ac yn rhyddhau oestrogen dros sawl mis cyn ei newid. Nid oes trwyddedau ar gyfer mewnblaniad oestrogen a dim ond mewn clinigau arbenigol y ceir y rhain. Oni bai eich bod wedi cael hysterectomi, byddai angen i chi gymryd progestogen hefyd. Gallai hyn fod ar ffurf pesari neu dabledi progestogen neu system mewngroth.
Gel testosteron
Ar gyfer rhai menywod, mae colli’r ysfa am ryw yn un o brif symptomau’r menopos. Os yw hyn wedi bod yn broblem i chi, a’ch bod wedi derbyn atgyfeiriad at arbenigwr y menopos i gael cymorth, efallai y byddant yn rhoi gel testosteron i chi, sy’n cael ei rwbio i mewn i’r croen.
Triniaethau eraill ar bresgripsiwn ar gyfer symptomau’r menopos
Os nad ydych am ddefnyddio HRT, neu nad yw’n ddiogel i chi wneud hynny, mae meddyginiaethau eraill ar bresgripsiwn ar gael i chi.
Mae Tibolone yn debyg i HRT cyfunol ac mae’n dod ar ffurf tabled, sy’n cael ei gymryd unwaith y dydd. Gall leddfu symptomau’r menopos fel pyliau o wres a hwyliau isel, ond credir ei fod yn llai effeithiol na HRT. Dim ond ar ôl y menopos y gellir cymryd Tibolone h.y. bod eich mislif wedi dod i ben dros flwyddyn yn ôl.
Fel HRT, mae cymhlethdodau iechyd yn gysylltiedig â Tibolone, fel risg uwch o gancr y fron a strôc.
Mae Clonidine yn feddyginiaeth ar ffurf tabled y gellir ei gymryd dwy neu dair gwaith y dydd ac mae’n lleddfu pyliau o wres a chwysu yn y nos. Nid oes risg uwch o gancr na cheulad gwaed gyda Clonidine, ond fel unrhyw feddyginiaeth, gall achosi sgil-effeithiau annymunol, ac nid yw ei lwyddiant wedi’i warantu.
Cyfeiriadau