Llawlyfr Gweithwyr (Telerau ac Amodau)
Mae'n Llawlyfr Gweithiwr wedi ei gynllunio i’ch cyflwyno i’n sefydliad ac i fod o ddefnydd parhaol yn ystod eich cyflogaeth.
Llawlyfr Gweithwyr (PDF, 614KB)
Mae'r Llawlyfr yn nodi prif delerau ac amodau eich cyflogaeth, canllawiau ar y safonau uchel o ymddygiad a ddisgwylir gennych a rhai o’r buddiannau gweithwyr a all fod ar gael i chi.
Mae'r Llawlyfr hefyd wedi ei gynllunio i roi trosolwg i chi o bynciau pwysig sy'n berthnasol i'r cyngor a'ch cyflogaeth. Bydd yn eich cyfeirio at ffynonellau gwybodaeth eraill a fydd yn darparu mwy o fanylion am y pynciau a drafodir yn y Llawlyfr.
Mae'r Llawlyfr yn ddogfen bwysig ac mae’n hanfodol eich bod yn ei ddarllen yn drwyadl.
Os oes arnoch angen mwy o wybodaeth neu os oes gennych gwestiynau am y wybodaeth sydd o fewn y Llawlyfr cysylltwch â'ch rheolwr llinell, neu gyda'r adran berthnasol.
O dro i dro gall fod yn angenrheidiol newid cynnwys y Llawlyfr, er enghraifft o ganlyniad i newid mewn deddfwriaeth.
Rydym yn cydnabod mai dim ond trwy ymdrech pob un ohonoch chi y gellir cyflawni ein nodau a’n hamcanion. Os ydych yn darparu gwasanaeth yn uniongyrchol i’r cymunedau rydym yn eu gwasanaethu neu eich bod yn darparu cymorth i weithwyr eraill sy’n gwneud hynny, mae gennych rôl bwysig i'w chwarae er mwyn sicrhau ein bod yn cyflawni ein hamcanion.
Fel gweithiwr, chi yw ased mwyaf gwerthfawr y cyngor. Ein nod yw bod ymysg sefydliadau Llywodraeth Leol gorau’r DU. Mae’n fwriad gennym hefyd i wneud y cyngor yn ‘Gyflogwr Delfrydol’.
Bydd eich cyfraniad, drwy ymroi i ragoriaeth, yn cynorthwyo’r cyngor i gyflawni hyn, a fydd o fudd i’r cyngor, ei weithwyr, a phobl Sir Ddinbych.