Ein Gweledigaeth, Gwerthoedd ac Egwyddorion
Fel Cyngor Sir, rydym yn sefydliad uchelgeisiol, hyblyg sy'n rhoi gweithwyr a chymunedau yn ganolog i'n penderfyniadau. Rydym eisiau i Sir Ddinbych fod y gorau y gall fod i'n cymunedau a chenedlaethau'r dyfodol.
I helpu i gyflawni hyn, mae gennym Gynllun Corfforaethol sy'n amlinellu naw Nod Lles ac Amcanion Cydraddoldeb.
Siart Strwythur Cyngor Sir Ddinbych, (PDF, 300KB)
Creu diwylliant 'Un Cyngor' gydag arweinyddiaeth weladwy gadarn a rheolaeth effeithiol i sicrhau lefel uchel o wasanaeth cwsmer i'n cymunedau.
Fel cyflogwr, rydym ni'n canolbwyntio ar gyfathrebu, cydraddoldeb a pholisïau sy'n gyfeillgar i bobl ac rydym ni’n chwilio am bobl sy'n rhannu ein gweledigaeth a'n gwerthoedd. Rydym yn angerddol i gydweithio er mwyn cyflawni gwasanaeth ymddiriedig i'n cymunedau. Fel cyflogwr, rydym wedi ymrwymo i greu amgylchedd cadarnhaol a chefnogol i'n holl weithwyr.
Os ydych chi'n dymuno gwneud gwahaniaeth gwirioneddol i breswylwyr Sir Ddinbych ac yn chwilio am gyflogwr gwerth chweil sy'n eich gwerthfawrogi, yna dyma'r lle i chi.
Ein gwerthoedd yw:
Balchder: Ein nod ydi creu teimlad o falchder o weithio i’n sefydliad. Dylem ymfalchïo yn y gwaith a wnawn a’r hyn rydym ni’n ei gyflawni fel sefydliad.
Undod: Mae pob un ohonom yn gweithio i’r un sefydliad. Fel Cynghorwyr a staff fe ddylem ni geisio adlewyrchu hynny yn y modd rydym ni’n ymddwyn ac yn gwasanaethu ein cymunedau. Fel y dywed ein harwyddair “Unwn i wneud da”, rydym ni’n gweithio’n agos, yn barod i gydweithio ac yn cefnogi cydweithwyr ar draws y sefydliad, pa bynnag gyfarwyddiaeth, gwasanaeth neu dîm maent yn gweithio ynddo. Mae ein cwsmeriaid a’n cymunedau yn disgwyl i’r sefydliad weithredu fel un corff nad ydi o'n gwneud gwahaniaeth rhwng gwasanaethau.
Parch: Ein nod ydi trin pawb yn deg ac yn gyfartal, a deall bod yna farn a chredoau sy’n wahanol i’n rhai ni. Rydym ni’n ceisio cynnwys a gwrando ar ein cymunedau, gan ystyried eu barn ac ymateb yn briodol.
Gonestrwydd: Fel Cynghorwyr a staff rydym ni’n ceisio rheoli ein hunain i fwyhau perfformiad, sicrhau ymddygiad o safon uchel a chyflwyno delwedd gadarnhaol o Sir Ddinbych. Rydym ni’n ceisio bod yn realistig gyda’n cydweithwyr a’n dinasyddion o ran eincyflawniadau a’n heriau, gan ddarparu gwybodaeth agored a gonest.
Mae ein 5 egwyddor yn hanfodol i bopeth rydym yn ei wneud yng Nghyngor Sir Ddinbych:
1. Ein diwylliant
Mae ein diwylliant yn canolbwyntio ar ein 4 gwerth allweddol: Balchder, Undod, Parch a Chywirdeb. Pa bynnag adran neu wasanaeth mae ein pobl yn gweithio, rydym yn defnyddio dull 'Un Cyngor' i bopeth rydym yn ei wneud, darparu amgylchedd sy’n barchus, proffesiynol ac yn ddymunol i'n gweithwyr.
2. Ein Cymunedau
Byddwn yn parhau i fod yn Gyngor sy'n agosach at ei gymunedau sy'n rhoi hyder i'r gymuned, annog arweinyddiaeth gymunedol a datblygu cryfder cymunedol drwy gyfathrebu cadarnhaol.
3. Ein Perfformiad
Fel Cyngor, rydym yn realistig, agored a gonest am bopeth rydym yn ei wneud, rydym yn parhau'n uchelgeisiol yn ein meysydd blaenoriaeth allweddol ac yn bwysicach na dim, rydym yn Gyngor sy'n atebol.
4. Perthnasoedd Aelod/Swyddog
Rydym yn gwerthfawrogi ein perthnasoedd gwaith agos gydag aelodau etholedig a sicrhau bod y perthnasoedd da hynny yn treiddio drwy'r Cyngor, gan greu amgylchedd o barch a dealltwriaeth rhwng pawb.
5. Ein Staff
Fel Cyngor, rydym yn cydnabod mai gweithwyr yw ein hased mwyaf gwerthfawr. Drwy ddefnyddio gallu, gwybodaeth a phrofiad pob unigolyn sy'n gweithio i'r Cyngor, gallwn wneud gwahaniaeth gwirioneddol i bobl o fewn ein cymunedau. Mae gwerthoedd a rennir yn ganolbwynt i bopeth rydym yn ei wneud ac rydym eisiau i weithwyr deimlo’n rhan o rywbeth mwy!