Sir Ddinbych yn Gweithio: Cymorth a mentora
Bydd aelod o dîm Sir Ddinbych yn Gweithio yn eich cefnogi â’ch anghenion, nodau a gofynion personol. Yr unigolyn hwnnw fydd eich mentor.
Yn ystod cyfarfodydd â’ch mentor, gallwch drafod eich amgylchiadau, dewisiadau a’ch swyddi delfrydol. Bydd eich mentor yn trafod â chi beth ydych chi'n teimlo fyddai'n eich helpu i oroesi unrhyw rwystrau sydd o bosibl yn eich atal rhag cyrraedd eich nod, megis;
- dysgu sgiliau newydd drwy gwblhau hyfforddiant
- ennill profiad a geirdaon cyfredol drwy wirfoddoli
- dod o hyd i swydd
Cysylltu â ni: Sir Ddinbych yn Gweithio
Cefnogaeth
Gall Sir Ddinbych yn Gweithio eich cefnogi â:
Budd-daliadau ac Ymrwymiad Hawlydd
Byddwn yn eich helpu i ddeall eich budd-daliadau a’ch helpu i ddarganfod beth ydych chi'n gymwys ar ei gyfer, a thrwy Cyngor Ar Bopeth, gallwn sicrhau eich bod yn derbyn y cymorth sydd ei angen arnoch o bosibl i fynd i’r afael ag unrhyw broblemau. Gallant hefyd eich helpu ag arbed ynni a lleihau eich biliau tanwydd.
Byddwn hefyd yn eich cefnogi i fodloni eich Ymrwymiad Hawlydd ar gyfer y Ganolfan Swyddi drwy ddarparu hyfforddiant i’ch helpu i;
- ddefnyddio cyfrifiadur
- cael mynediad at wybodaeth ar-lein
- llunio CV cyfredol
- chwilio am gyfleoedd swyddi.
Dod o hyd i swydd
Gallwn eich helpu i ddarganfod hyfforddiant priodol i'ch helpu i ddod o hyd i'r swydd i chi.
Byddwn ni’n gwneud y gwaith caled o ran chwilio am swydd, mae gennym restr gyfredol o gyfleoedd swyddi a gallwn baru eich sgiliau i swyddi gwag, neu gallwn eich helpu i ennill sgiliau yn ogystal â'ch helpu i wneud cais.
Dod o hyd i gyfleoedd gwirfoddoli
Byddwn yn gweithio’n galed i geisio eich helpu i ennill profiad gwaith gan ddod o hyd i gyfle gwirfoddoli ac fe wnawn ni ein gorau i sicrhau eich bod yn hapus yno.
Costau teithio
Mae cymorth ar gael ar gyfer eich costau teithio os bydd yn rhaid teithio i gyrsiau hyfforddiant neu leoliadau gwirfoddoli.
Beth ydym ni'n ei ddisgwyl gennych chi
Rydym ni’n disgwyl y canlynol;
Cyfarfodydd gyda'ch mentor
Pan fyddwch chi’n cytuno i gyfarfod eich mentor, sicrhewch eich bod yn mynychu’r cyfarfod neu sicrhewch eich bod yn rhoi gwybod iddynt os na fyddwch yn gallu bod yno. Unwaith y bydd apwyntiad wedi’i drefnu â chi, mae’r amser hwnnw wedi'i ddyrannu'r i'ch cefnogi, ac efallai y bydd eich Mentor wedi gorfod teithio i ddod draw i'ch gweld. Cofiwch roi gwybod i ni mewn da bryd os oes angen i ni ail-drefnu.
Tystiolaeth
I ddarparu cymorth i chi, mae’n rhaid i ni ofyn am dystiolaeth sy’n profi eich bod yn gymwys. Bydd eich mentor yn rhoi gwybod i chi beth mae'n rhaid iddynt ei weld, dewch â'r dogfennau â chi er mwyn i ni allu eich cefnogi cyn gynted â phosibl.
Gwaith Papur
Mae ffurflenni y mae’n rhaid i ni eu cwblhau â chi er mwyn ein helpu i gadw cofnod o'ch hanes gwaith, budd-daliadau ac unrhyw rwystrau sydd o bosibl yn eich atal rhag symud ymlaen.
Cyrsiau Hyfforddi
Gall cyrsiau hyfforddi fod yn ddrud, felly mae’n rhaid i chi eu mynychu a’u cwblhau. Rhowch wybod i ni os oes unrhyw reswm pam na allwch fynychu hyfforddiant sydd wedi’i drefnu ar eich cyfer er mwyn i ni allu gwneud trefniadau amgen.
Work Star™
Dogfen yw Work Star™ sy’n eich helpu chi a’ch Mentor i ddarganfod beth yw eich blaenoriaethau. Efallai eich bod yn awyddus iawn i ddod o hyd i waith ac angen cymorth wedi’i dargedu er mwyn cyflawni hynny, neu efallai nad ydych chi’n barod i ddod o hyd i swydd ar hyn o bryd, efallai bod problemau eraill y mae'n rhaid i chi fynd i'r afael â hwy cyn dechrau meddwl am weithio.
Bydd y Work Star™ yn helpu i nodi blaenoriaethau a chynllunio sut i ymgymryd â chamau er mwyn datblygu. Bydd eich Mentor yn helpu i wneud y broses hon mor syml â phosibl.