Gwybodaeth am Sir Ddinbych yn Gweithio
Mae Sir Ddinbych yn Gweithio yn wasanaeth cyflogadwyedd sydd gyda’r nod o gefnogi preswylwyr Sir Ddinbych, 16 oed a hŷn, sydd mewn tlodi neu mewn risg o dlodi.
Rydym yn cynnig cefnogaeth ar gyfer nifer o wahanol rwystrau y byddech o bosib yn ei wynebu, fel:
- Cymorth i ddod o hyd i swydd
- Cefnogaeth i ddod o hyd i waith neu leoliad gwirfoddol
- Hyfforddiant a chymwysterau pellach
- Magu hyder a chefnogaeth i’ch ysgogi
- Creu neu wella CV
- Sgiliau a thechnegau cyfweliad
- Llenwi ffurflenni cais
- Datblygu sgiliau TG sylfaenol
- Eich cynorthwyo i ddeall eich hawl i gael budd-daliadau
- Cymorth gyda chyllid ar gyfer offer, dillad cyfweliad a thystysgrifau
- Ariannu costau teithio i gyfweliadau, lleoliadau gwaith a hyfforddiant
Beth am gofrestru heddiw? Bydd mentor yn cael ei neilltuo i chi, fydd yn eich cefnogi i gyrraedd eich nodau.
Cysylltwch â ni: Sir Ddinbych yn Gweithio